Bargen Twf yn cefnogi cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer parciau busnes Canolbarth Cymru
Mae Tyfu Canolbarth Cymru wedi cyhoeddi heddiw fod BT wedi’i benodi i gyflawni Prosiect Ffeibr Llawn i’r Safle (FTTP) Parciau Busnes — cam mawr ymlaen wrth ddarparu band eang gigabit i barciau busnes ledled Ceredigion a Phowys.
Bydd y prosiect yn darparu band eang ffeibr llawn gyflym, dibynadwy ac wedi’i ddiogelu ar gyfer y dyfodol i barciau busnes heb fynediad at gysylltedd gallu gigabit ar hyn o bryd. Bydd y buddsoddiad hwn yn helpu busnesau lleol i dyfu, cynyddu cynhyrchiant a pharhau’n gystadleuol mewn economi gynyddol ddigidol.
Mae’r prosiect yn rhan o Raglen Ddigidol Tyfu Canolbarth Cymru a Bargen Twf Canolbarth Cymru ehangach, sef buddsoddiad o £110m gan Lywodraethau’r DU a Chymru, i gefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth.
Yn hollbwysig, mae’r prosiect yn canolbwyntio ar eiddo mewn parciau busnes nad ydynt wedi’u cynnwys mewn cyflwyniadau band eang masnachol presennol nac mewn rhaglenni eraill a ariennir yn gyhoeddus. Mae hyn yn sicrhau bod y buddsoddiad yn darparu gwerth ychwanegol clir drwy ganolbwyntio ar safleoedd a fyddai fel arall yn colli allan ar fand eang o ansawdd uchel.
Bydd cysylltedd ffibr llawn yn cael ei ddarparu i safleoedd cyflogaeth allweddol ledled Ceredigion a Phowys.
Y tu hwnt i’r parciau busnes a nodwyd, bydd adeiladu’r rhwydwaith hefyd yn galluogi cartrefi a busnesau cyfagos ychwanegol i uwchraddio i ffeibr llawn wrth i’r rhwydwaith ymestyn drwy’r ardal. Bydd hyn yn ehangu mynediad at fand eang gigabit ymhellach ac yn gwneud y mwyaf o fuddion ehangach y buddsoddiad ar draws y rhanbarth.
O dan y contract, bydd BT yn dylunio ac yn adeiladu rhwydwaith ffeibr llawn sy’n gallu cefnogi cyflymderau lawrlwytho hyd at 1 Gbps, gyda’r hyblygrwydd i ateb galw yn y dyfodol. Bydd y rhwydwaith yn un mynediad agored, sy’n golygu na fydd busnesau wedi’u clymu i un darparwr ac y gallant ddewis gwasanaethau band eang o’u dewis gan amrywiaeth o ddarparwyr gwasanaeth rhyngrwyd, gan hyrwyddo dewis, cystadleuaeth a gwerth am arian.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, a’r Cynghorydd Jake Berriman, Arweinydd Cyngor Sir Powys, Cyd-gadeiryddion Bwrdd Tyfu Canolbarth Cymru: “Mae’r prosiect hwn yn dangos y momentwm sydd eisoes yn adeiladu ar draws Bargen Twf Canolbarth Cymru, gyda buddsoddiad yn trosi’n gyflawni ar lawr gwlad. Mae’n gam mawr ymlaen i Ganolbarth Cymru.
Bydd sicrhau bod ein parciau busnes yn cael mynediad at ffeibr llawn gigabit yn cryfhau’r sylfeini ar gyfer twf rhanbarthol, yn gwella cystadleuaeth, ac yn cefnogi busnesau i fabwysiadu offer a gwasanaethau digidol modern. Yn bwysig, mae’r prosiect hwn yn targedu safleoedd nad oeddent o fewn cwmpas rhaglenni masnachol neu raglenni cyhoeddus presennol, gan sicrhau bod buddion ffeibr llawn yn cyrraedd mwy o’n cymunedau a’n safleoedd cyflogaeth."
Mae Prosiect FTTP y Parciau Busnes yn rhan o weledigaeth ehangach Tyfu Canolbarth Cymru i fynd i’r afael â heriau cysylltedd a datgloi buddion economaidd buddsoddi mewn seilwaith digidol, gan gefnogi twf cynhwysol a gwydnwch hirdymor ar draws Canolbarth Cymru.
Dywedodd Susi Marston, Pennaeth y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn BT: “Mae band eang dibynadwy o ansawdd uchel yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r ffordd y mae pobl yn rhedeg eu busnesau bob dydd, gan roi’r cysylltedd sydd ei angen arnynt i arloesi a thyfu. Mae’r rhaglen hon yn golygu y gall mwy o bobl a lleoedd elwa ar fynediad digidol cyflym a dibynadwy, gan eu helpu i ffynnu mewn dyfodol cynyddol ddigidol. Mae Cymru yn leoliad allweddol i BT ac yn chwarae rhan hanfodol wrth bweru economi’r DU, felly mae buddsoddi yn y seilwaith digidol a fydd yn pweru ei busnesau am flynyddoedd i ddod yn bwysig iawn i ni.”
Fel rhan o’r contract, bydd BT hefyd yn darparu cymorth sgiliau digidol i fusnesau bach a chanolig ledled Canolbarth Cymru. Bydd hyn yn cynnwys rhaglen rithwir dan arweiniad arbenigwyr diwydiant, gan gynnig gweithdai ymarferol, offer a chanllawiau wedi’u teilwra i helpu busnesau i adeiladu gallu digidol a gwella cynhyrchiant. Bydd gweithgarwch hyrwyddo wedi’i dargedu yn sicrhau bod busnesau ar draws y rhanbarth yn ymwybodol o’r rhaglen ac yn gallu cymryd rhan ynddi.
Mae'r gwaith adeiladu’r rhwydwaith wedi cychwyn, gyda busnesau’n cael eu hannog i gofrestru i gylchlythyr Tyfu Canolbarth Cymru am ragor o ddiweddariadau wrth i’r prosiect fynd rhagddo: https://www.tyfucanolbarth.cymru/Cylchlythyron
Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price: “Rydym yn croesawu’r broses o gyflwyno band eang ffibr llawn i barciau busnes ledled Canolbarth Cymru. Bydd cysylltedd sy’n gallu darparu gigabit yn helpu busnesau lleol i dyfu, arloesi a chystadlu ar delerau cyfartal.
“Mae cymorth o £55m wedi’i ddarparu gan Lywodraeth flaenorol Cymru i Fargen Twf Canolbarth Cymru. Fel llywodraeth sydd newydd ei hethol, byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ysgogi ffyniant hirdymor yn y rhanbarth a thu hwnt drwy adeiladu busnesau Cymreig cryfach, creu swyddi cynaliadwy o ansawdd uchel, a chysylltu pobl a chyfleoedd.”
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Anna McMorrin: “Mae buddsoddiad Llywodraeth y DU ym Margen Twf Canolbarth Cymru yn dod â newid gwirioneddol i fusnesau a phobl ledled y rhanbarth, gan symud ein hymrwymiad i dyfu economi Cymru yn ei flaen a chreu swyddi ym mhob rhan o Gymru.
“Bydd y cyflwyniad o fand eang cyflym iawn yn galluogi busnesau yng Ngheredigion a Phowys i weithio’n fwy effeithlon ac i gyrraedd mwy o gwsmeriaid, gan hefyd wella cysylltedd i bobl leol.”
Mae’r cyhoeddiad yn adeiladu ar bresenoldeb cryf BT ar draws Cymru, gyda’r cwmni’n cyflogi dros 4,500 o bobl ledled y wlad ac yn darparu hwb o £680 miliwn i economi Cymru.
12/06/2026