Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Atgoffa preswylwyr o'r newidiadau i gasgliadau gwastraff ar ddydd Llun Gŵyl y Banc

Atgoffir preswylwyr o'r newidiadau i gasgliadau gwastraff ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. 

Dros Ŵyl y Banc ym mis Awst byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:

Diwrnod Casglu Arferol

 

Casglu ar

Dydd Llun 31 Awst 2026

Symud i

Dydd Sadwrn 29 Awst 2026

 

 

 

Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ystod yr wythnos sydd yn arwain at Ŵyl y Banc gydag unrhyw newid i’r drefn uchod. www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor, “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel bob amser fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus”.

Safleoedd Gwastraff Cartref

Dros Ŵyl y Banc ym mis Awst  bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd

dros Ŵyl y Banc

Dydd Sadwrn

10:00 - 15:00

Dydd Sul

10:00 - 15:00

Dydd Llun Gŵyl y Banc

10:00 - 15:00

Bydd dim newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros Ŵyl y Banc ym mis Awst.

Diwrnod

Oriau agor Safle Gwastraff Cartref  Rhydeinon dros Ŵyl y Banc

Dydd Sadwrn

10:00 - 17:00

Dydd Sul

10:00 - 17:00

Dydd Llun Gŵyl y Banc

Ar Gau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i www.ceredigion.gov.uk

27/08/2026