Arhoswch yn ddiogel o amgylch dŵr yn ystod tywydd poeth
Gan fod y darlun ar draws Dyfed-Powys yn amrywio o ran cau ysgolion oherwydd gwres eithafol ar 24 a 25 Mehefin 2026, mae Cyngor Sir Ceredigion yn annog pobl ifanc, rhieni, preswylwyr ac ymwelwyr i gymryd gofal ychwanegol o amgylch afonydd, llynnoedd, cronfeydd dŵr, traethau a lleoliadau dŵr agored eraill.
Er gwaethaf tymheredd uchel, mae tymheredd y dŵr yn parhau i fod yn sylweddol oerach a gall sbarduno sioc dŵr oer, a all effeithio ar unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran neu eu gallu nofio.
Gall sioc dŵr oer achosi anadl anwirfoddol, anadlu cyflym a phanig, gan ei gwneud hi'n anodd aros ar wyneb y dŵr neu nofio i ddiogelwch.
Gall cyrff dŵr naturiol gynnwys peryglon cudd, gan gynnwys ceryntau cryf, rhwystrau tanddwr a newidiadau sydyn mewn dyfnder.
Anogir preswylwyr i ddilyn cyngor diogelwch dŵr syml:
- Peidiwch byth â neidio na phlymio i mewn i ddŵr agored
- Ewch i mewn i'r dŵr yn araf ac yn ofalus
- Peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun
- Osgowch alcohol cyn neu yn ystod gweithgaredd yn y dŵr
- Dewiswch leoliadau sydd wedi’u goruchwylio lle bo’n bosibl
- Dylid goruchwylio plant bob amser
Os ydych chi'n syrthio i ddŵr oer yn annisgwyl, cofiwch "Arnofio i Fyw".
Mae'r Cyngor hefyd yn annog rhieni a gofalwyr i siarad â phlant a phobl ifanc am y peryglon o fynd i mewn i ddŵr heb oruchwyliaeth yn ystod tywydd poeth.
Dywedodd Cynghorydd Bryan Davies Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd, Polisi a Pherfformiad a Phobl a Threfniadaeth: “Rydym am i bawb allu mwynhau’r tywydd cynnes yn ddiogel yng Ngheredigion. Er bod hi’n demtasiwn i oeri mewn dŵr agored ar ddiwrnodau poeth, gall y peryglon fod yn sylweddol. Rydym yn annog preswylwyr ac ymwelwyr i gymryd gofal, dilyn y cyngor diogelwch, ac rydym hefyd yn gofyn i rieni a gofalwyr siarad â phobl ifanc am y risgiau er mwyn helpu i gadw pawb yn ddiogel.”
I gael cyngor pellach, ewch i wefan yr RNLI: Cyngor ac Awgrymiadau Diogelwch Dŵr
24/06/2026