Annog defnyddwyr y dŵr i roi digon o le i ddolffiniaid ym Mae Ceredigion
Mae Awdurdod Harbyrau Ceredigion yn atgoffa padlfyrddwyr, caiacwyr, nofwyr a defnyddwyr eraill y dŵr i roi digon o le i ddolffiniaid ar ôl i bobl fynd yn rhy agos at fam ddolffin a'i llo yn harbwr Cei Newydd yn ddiweddar.
Mae Bae Ceredigion yn gartref i un o boblogaethau pwysicaf y DU o ddolffiniaid trwyn potel a bob blwyddyn mae miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau gweld y creaduriaid rhyfeddol hyn yn eu hamgylchedd naturiol.
Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ar ôl adroddiadau bod unigolion wedi agosáu at fam ddolffin a'i llo a’u hamgylchynu yn harbwr Cei Newydd. Er mai anfwriadol yw rhai achosion o fynd yn rhy agos ‒ wrth i bobl gyffroi a dangos gormod o chwilfrydedd ‒ mae mynd yn rhy agos yn medru achosi straen i'r dolffiniaid a’u hatal rhag gorffwys, bwydo, a gofalu am loi ifanc.
Mae dolffiniaid yn cael eu gwarchod o dan ddeddfwriaeth bywyd gwyllt ac mae'n drosedd tarfu arnynt yn fwriadol. Felly mae Awdurdod Harbyrau Ceredigion yn gofyn i bawb sy'n defnyddio'r dŵr fwynhau'r cyfarfyddiadau hyn yn gyfrifol a chofio mai o bell y dylid arsylwi ar ddolffiniaid.
Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Warchodedig Bae Ceredigion:
“Rydym yn hynod ffodus o gael dolffiniaid yn ymweld â Cheredigion yn rheolaidd ac yn byw yma, ac mae cael cipolwg arnyn nhw yn dod â gwefr i bobl sy'n mwynhau ein harfordir. Er ein bod yn deall y cyffro sy'n dod gyda chyfarfyddiadau o'r fath, mae hon yn sefyllfa beryglus. Mae dolffiniaid yn anifeiliaid mawr pwerus, hyd at bedwar metr o hyd, ac ar frig y gadwyn fwyd yn eu cynefin.
Mae mam ddolffin gyda’i llo yn arbennig o fregus a gall ymddwyn yn ymosodol i amddiffyn ei llo. Bu achosion ledled y DU o ddolffiniaid trwyn potel yn ymosod ar bobol sy'n rhy agos a hynny drwy dopi, chwipio’r cynffon neu geisio dal person o dan y dŵr. Er mwyn cadw pobl a dolffiniaid yn ddiogel, mae angen i bawb roi lle iddyn nhw a chadw o leiaf 100 metr, sef hyd cae pêl-droed, i ffwrdd.
Mae mam ddolffin gyda lloi ifanc yn gallu bod yn arbennig o fregus. Rydym yn gofyn i’r rheiny sy’n padlfyrddio, caiacio neu nofio beidio â mynd at ddolffiniaid, na’u dilyn, na cheisio ymwneud â nhw. Symudwch i ffwrdd os ydych yn y dŵr, ac os ydych ar draeth, peidiwch â mynd i mewn i'r dŵr i gael golwg agosach.”
Mae Awdurdod Harbyrau Ceredigion yn annog holl ddefnyddwyr y dŵr i ddilyn y Côd Morol sy'n hyrwyddo ymddygiad diogel a chyfrifol o amgylch bywyd gwyllt y môr.
Caiff unrhyw un sy’n dyst i aflonyddwch parhaus ar ddolffiniaid neu fywyd gwyllt morol arall eu hannog i riportio'r mater i'r tîm troseddau gwledig drwy ddeialu 101 ac i ddarparu ffotograffau a fideo os yw’n bosib, a manylion y lleoliad, dyddiad ac amser.
Mae’r neges yn un syml: mwynhewch fywyd gwyllt Bae Ceredigion ond gadewch ddigon o le i ddolffiniaid ffynnu.

11/08/2026