Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Amserlen lawn dop ym Mhentre’r Garreg Las

Dim ond pythefnos sydd i fynd tan y bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chynnal.

Llantwd yng ngogledd Sir Benfro yw cartref y brifwyl, ond mae ardal y Garreg Las yn cwmpasu de Ceredigion, gorllewin Sir Gâr a Sir Benfro gyfan.

Mae amserlen lawn o’r gweithgareddau a’r cystadlaethau a gynhelir yn ystod yr wythnos ar gael ar wefan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Bydd cyfres o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn cydweithrediad rhwng Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Gaerfyrddin yn ardal ‘Pentre’r Garreg Las’ ar y Maes.

Ymhlith y digwyddiadau o ddiddordeb penodol i Geredigion ym Mhentre’r Garreg Las mae:

  • Plant y Garreg Las – Dydd Sul, 02 Awst,11:00. 
    Perfformiad o gân ‘Croeso i Fro’r Garreg Las’ gan bobl ifanc o 50 o ysgolion cynradd ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion.
  • Wes wes weth! – Dydd Llun, 03 Awst, 12:00. 
    Gwestai o’r dair sir yn trafod eu gwahaniaethau tafodieithol.
  • Ein Hafonydd, Ein Môr, Ein Data – Dydd Mercher, 05 Awst, 15:00. 
    Monitro afonydd gorllewin Cymru dan arweiniad y gymuned leol.
  • Ladis a Grym y Gymraeg – Dydd Mercher, 05 Awst, 11:30 a 15:30. 
    Theatr stryd gan Theatr Felinfach.
  • Castell Aberteifi – 850 mlynedd ers cynnau y fflam – Dydd Iau, 06 Awst, 10:00. 
    Hanes y Castell a’r cysylltiad Eisteddfodol.
  • Jambori y Siarter Iaith – Dydd Gwener, 07 Awst, 11:00. 
    Yng nghwmni Mei Gwynedd, Seren a Sbarc.
  • Darganfod Llwybr Cerdd Blaenannerch – Dydd Sadwrn, 08 Awst, 14:00. 
    Bydd Brychan, mab Dic Jones, yn rhoi cyflwyniad i gefndir yr ap Llwybr Cerdd, sydd wedi'i leoli o amgylch Fferm yr Hendre.

Bydd hefyd berfformiadau gan artistiaid lleol a  sesiynau stori yn y Babell Acwstig, ynghyd â llu o ddigwyddiadau ar hyd a lled y Maes.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb am Ddiwylliant: “Os nad ydych chi wedi bod i’r Eisteddfod Genedlaethol o’r blaen mi fydden i yn eich annog i fynd i Eisteddfod y Garreg Las. Bydd yna sioeau anhygoel o ddawns ac acrobateg yn yr hwyr, mae'r Super Furry Animals yn perfformio yno; cewch chi weld perfformiadau o opera, canu gwerin, cerddoriaeth gyfoes; gallwch dreulio’r diwrnod yn mwynhau’r arddangosfa gelf gyfoes unigryw yn y Pentre Celf; mae yna farddoniaeth i’w glywed yn cael ei berfformio’n fyw, a chewch rannu emosiwn gwylio seremoniau urddo aelodau newydd yr Orsedd;  mae yna gyfloedd gwych i siopa am yr anrheg pwysig yna; stondinau bwyd a diod di-ri; a chi’n siŵr o fwrw mewn i rhywun chi’n nabod a chael cyfle am glonc. Mae rhywbeth i bawb ar faes yr Eisteddfod – felly os yn ymwelydd newydd neu’n hen law – bydd croeso cynnes iawn i chi yn Llantwd ac yn arbennig ym Mhentre’r Garreg Las.”

Mae’r manylion llawn ar gael yma: 2026 | Eisteddfod ac ar ap yr Eisteddfod.

16/07/2026