Am Ddrama – grŵp theatr newydd i ddysgwyr Cymraeg o bob lefel
Cwestiwn – beth ydych chi’n ei gael os gymysgwch chi griw bywiog o siaradwyr Cymraeg newydd, golygfeydd byrfyfyr mewn archfarchnad a meddygfa, llwyfan Theatr Felinfach a Hwyliaith?
Yr ateb yw llwyth o chwerthin a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd fywiog, naturiol!
Cynhaliwyd sesiwn cyntaf grŵp drama ar gyfer siaradwyr newydd ‘Am Ddrama!’ yn Theatr Felinfach ym mis Mai. Daeth pobl sy’n dysgu Cymraeg at ei gilydd i fwynhau sesiwn actio a byrfyfyrio i ddatblygu sgiliau Cymraeg mewn awyrgylch hwyliog a chefnogol.
Trefnwyd y sesiwn gan Theatr Felinfach a Hwyliaith gan ddod â dysgwyr Cymraeg i’r theatr i gael y profiad o fod ar lwyfan mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar.
Dywedodd un o’r rhai a gymerodd ran fod y sesiwn ddrama i ddysgwyr Cymraeg yn “syniad arbennig” a bod hi “wedi mwynhau’r sesiwn” a “dwi wedi siarad heb orfod meddwl os ydw i’n iawn neu beidio, a doedd dim pwysau”.
Ychwanegodd Dwynwen Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach: “Fel theatr â gwreiddiau dwfn yn y gymuned, rydym yn awyddus bod cyfleoedd i siaradwyr newydd i ddatblygu hyder a creadigrwydd ac, ar ben popeth, cael hwyl yn chwarae gyda’r iaith mewn amgylchedd anffurfiol.”
Dywedodd Hannah James-Whittingham, Swyddog Creadigol Theatr a’r Gymuned: “Roedd y sesiwn gyntaf yn llawer o hwyl, ac mae’n braf cynnig cyfle newydd i drigolion yr ardal.”
Dyma a ddywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Catrin M S Davies: “Galla’ i ddim meddwl am le gwell i fentro defnyddio’ch iaith newydd. Mae criw Theatr Felinfach yn ymroi i gynnwys pawb, i roi cyfloedd positif ac i sicrhau digon o hwyl – y lle perffaith i siaradwyr newydd arbrofi gyda’r Gymraeg ac i fagu hyder.”
Cynhelir y sesiwn nesaf ddydd Mawrth 30 Mehefin am 2.30yp yn Theatr Felinfach. Mae croeso i unrhyw un ymuno, boed yn ddysgwyr profiadol neu yn dechrau ar eich siwrnai. Am ragor o wybodaeth am sesiwn ‘Am Ddrama!’, cysylltwch â Theatr Felinfach drwy ffonio 01570 470697 neu e-bostio theatr.felinfach@ceredigion.gov.uk
12/06/2026