Adfer to Amgueddfa Ceredigion yn nodi carreg filltir bwysig yn adfywiad yr Amgueddfeydd
Cyrhaeddwyd carreg filltir arwyddocaol yn y gwaith o adfer Amgueddfa Ceredigion, wrth i’r gwaith o osod to newydd ar Theatr eiconig y Coliseum, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, gael ei gwblhau, gan ddiogelu dyfodol un o safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd y sir.
Mae'r Coliseum wedi bod wrth wraidd bywyd diwylliannol Aberystwyth ers dros ganrif. Ym 1904, crefftwyr lleol a osododd do llechi nodedig yr adeilad am y tro cyntaf. Heddiw, dros 120 mlynedd yn ddiweddarach, mae adeiladwyr lleol unwaith eto wedi cyflawni'r dasg o warchod yr adeilad, gan osod to newydd o lechi a gloddiwyd yn arbennig ym Mlaenau Ffestiniog.
Mae'r prosiect nid yn unig yn diogelu adeilad hanesyddol pwysig ond hefyd yn cefnogi'r economi leol. Mae Grŵp DB3 yn rheoli'r prosiect o'u stiwdio yn Aberystwyth, gyda'r contractwyr lleol ‘LEB Construction Ltd’ yn ymgymryd â'r gwaith toi. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddau brentis, gan helpu i drosglwyddo sgiliau traddodiadol i'r genhedlaeth nesaf.
Mae'r gwaith ar y to yn rhan hanfodol o'r rhaglen ehangach i adfer ac adfywio Amgueddfa Ceredigion. Er bod yr amgueddfa yn parhau i fod ar gau yn ystod y gwaith, mae cynlluniau'n mynd rhagddynt ar gyfer pennod newydd gyffrous, gan gynnwys arddangosfeydd wedi'u hadnewyddu, profiadau gwell i ymwelwyr a chyfleoedd ar gyfer mwy o gyfranogiad cymunedol.
"Mae hon yn foment bwysig i Amgueddfa Ceredigion, a mae’n destun balchder ein bod yn diogelu’r adeilad a’r casgliadau i’r dyfodol gan sicrhau bod treftadaeth Ceredigion mewn lle diogel ac y bydd y dyfodol yn gyffrous " meddai'r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiwylliant. “Roedd cael cyfle i ymweld â’r safle a gweld adeiladwyr lleol yn gweithio gyda llechi Cymreig i ddiogelu’r amgueddfa yn brofiad gwych.
Mae trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn gweld eisiau’r amgueddfa’n fawr, ac mae’r gwaith atgyweirio hanfodol hwn yn dod â ni gam yn nes at groesawu pobl yn ôl drwy’r Drysau.”
Mae tîm yr amgueddfa yn parhau i ddatblygu cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, gydag arddangosfeydd newydd eisoes yn cael eu cynllunio a'u paratoi. Bydd ymgysylltu ag ysgolion a chymunedau lleol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio pennod nesaf yr amgueddfa, gan sicrhau ei bod yn parhau i fod yn fan lle gellir rhannu a dathlu straeon, treftadaeth a diwylliant.
"Mae llawer i'w wneud o hyd, ond bydd yn werth yr aros," meddai Carrie Canham, y Curadur. "Mae'r gwaith sy'n digwydd nawr yn gosod y sylfeini ar gyfer amgueddfa gryfach a mwy gwydn a fydd yn gwasanaethu cymunedau ledled Ceredigion am genedlaethau i ddod."
Anogir aelodau'r cyhoedd i ddilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Ceredigion i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect adfer a datblygiadau yn y dyfodol.
21/10/2026