Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ysgol Dyffryn Aeron yn agor ei drysau i ddisgyblion am y tro cyntaf

Ar 6 Ionawr 2025, agorodd Ysgol Dyffryn Aeron ei drysau gyda balchder am y tro cyntaf, gan ddarparu amgylchedd dysgu eithriadol ar gyfer hyd at 240 o ddisgyblion cynradd, o oed meithrin rhwng 3 ac 11 oed. Agorwyd yr ysgol i’r staff ar Ddydd Llun 6 Ionawr, er mwyn paratoi ar gyfer croesawu’r disgyblion ar ddydd Mawrth 7 Ionawr.

Bydd yr ysgol ardal yn uno Ysgol Ciliau Parc, Ysgol Dihewyd ac Ysgol Felinfach gan ddarparu cyfleusterau dysgu o’r radd flaenaf i’n disgyblion. Mae gan Ysgol Dyffryn Aeron ystod o gyfleusterau modern, megis llain astro 3G yn ogystal ag Ardal Chwaraeon Amlddefnydd. Mae gan Calon Aeron (Canolfan ADY) y cyfleusterau diweddaraf i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, gan sicrhau amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bob disgybl.

Ysgol Dyffryn Aeron yw’r ysgol fwyaf newydd Ceredigion. Ysgol sy’n werth £16.3m a ariannwyd drwy Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru (£10.0m), Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru (£1.6m) a chyfraniad ariannol cyfatebol gan Gyngor Ceredigion o £4.7m.

Dywedodd Nia Thomas, Pennaeth Ysgol Dyffryn Aeron: “Gyda balchder a brwdfrydedd aruthrol rydym yn croesawu ein disgyblion i Ysgol Dyffryn Aeron. Mae’r ysgol fodern hon yn fuddsoddiad sylweddol, nid yn unig yn nyfodol ein disgyblion ond hefyd i’r gymuned gyfan y mae’n ei gwasanaethu. Mae cyfleusterau rhagorol yr ysgol wedi'u cynllunio i ddarparu amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pob myfyriwr ffynnu.”

“Ein gweledigaeth yw bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi, ei ysbrydoli, a’i rymuso i ffynnu’n academaidd, yn gymdeithasol ac yn emosiynol, gan ddatgloi potensial a gosod sylfaen gadarn ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol.“

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae agoriad Ysgol Dyffryn Aeron yn nodi dechrau taith gyffrous. Mae hwn yn garreg filltir nodedig o fewn Addysg yng Ngheredigion, ac rydyn yn gobeithio bydd y disgyblion a’r staff yn setlo’n dda. Rwy’n credu bydd Ysgol Dyffryn Aeron yn lle y gall disgyblion a staff ffynnu. Rwy’n edrych ymlaen at agoriad swyddogol yn y gwanwyn.”

Bydd Ysgol Dyffryn Aeron yn cael ei hagor yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Eluned Morgan AS, yn y gwanwyn.