
Yr iaith Gymraeg a dyfodol dwyieithog yn cael lle canolog yng Nghynhadledd Iaith Ceredigion
Ar 30 Mehefin 2025, daeth dros 60 o bobl o wahanol sefydliadau a mudiadau o bob cwr o Gymru i Gynhadledd Iaith Ceredigion yn Theatr Felinfach. Dyma’r gynhadledd gyntaf o’i fath yng Ngheredigion. Trwy gefnogaeth Fforwm Iaith Ceredigion sef Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion a noddwyr y diwrnod sef cynllun ARFOR, cafwyd diwrnod llwyddiannus tu hwnt.
Croesawyd pawb i’r gynhadledd gan Gynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion. Yn ei araith agoriadol nodwyd: “Mae Ceredigion yn un o gadarnleodd yr iaith Gymraeg a chymunedau dwyieithog. Mae unigolion, mudiadau a chyrff o bob sector yn chwarae rhan allweddol wrth hybu statws y Gymraeg a chynnal y defnydd o'r iaith ym mhob agwedd o fywyd yn y Sir. Trwy ein Fforwm Iaith sef - Fforwm Dyfodol Dwyieithog Ceredigion rydym yn cydweithio ac yn gweithredu syniadau a gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad yr iaith yn y Sir.”
Yn ystod y diwrnod cafwyd amryw o gyflwyniadau gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn sôn am ymdrech barhaus ein Cyngor Sir i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg yn y sir gan gynnwys gwaith ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, prosiectau cymunedol CERED y Fenter Iaith a Theatr Felinfach ynghyd â chynllun Cymraeg Gwaith y Cyngor Sir sy’n yn cynnig hyfforddiant Cymraeg i’r gweithle. Cafwyd cyflwyniad hefyd ar effaith cynllun ARFOR yng Ngheredigion.
Yn ystod y prynhawn cafwyd cyflwyniadau gan Jeremy Evas, Pennaeth Prosiect 2050 Llywodraeth Cymru, Dr Arwel Williams, Swyddog Project ARFer, Canolfan Bedwyr, a Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru a Chadeirydd Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar gefndir Prosiect BRO.
I orffen y gynhadledd cynhaliwyd sesiwn Holi ac Ateb wedi’i gadeirio gan y Cynghorydd Catrin MS Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid. Croesawyd Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg, Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, Prifysgol Cymru a Chadeirydd, Comisiwn Cymunedau Cymraeg, a Llyr Roberts, Prif Weithredwr Mentera. Gwnaethon gynnig sylwadau ar amrywiaeth o gwestiynau am ddyfodol yr Iaith.
Daeth y Gynhadledd i ben yn sain ensemble telynau Gwasanaeth Cerdd Ceredigion. Diwrnod o ddathlu Cymreictod yn Sir Ceredigion, rhannu gwybodaeth a chyfleodd i rwydweithio gyda nifer o wahanol sefydliadau a mudiadau o bob cwr o Gymru.
Adlewyrchodd Carys Lloyd-Jones, Swyddog Polisi Iaith Ceredigion, ar lwyddiant y gynhadledd iaith gyntaf a dywedodd: “Cafwyd cynhadledd lwyddiannus ac adborth da iawn. Roedd y gynhadledd hon yn gyfle i ddathlu llwyddiannau’r Iaith Gymraeg yng Ngheredigion yn ogystal â ystyried cynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol.”
Er mwyn gweld fideo o’r diwrnod ewch i: https://youtube.com/shorts/aQZcjWnr1-A?feature=share