Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn ehangu i Geredigion

Mae nifer o ysgolion cynradd yng Ngheredigion bellach yn gweini llysiau organig wedi’u tyfu yng Nghymru i blant fel rhan o ginio ysgol yn rhan o brosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion.

Cynllun peilot wedi’i gydlynu gan Synnwyr Bwyd Cymru yw Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a’i nod yw cynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru. Ar hyn o bryd, mae ar waith mewn chwe ardal awdurdod lleol a Cheredigion yw’r seithfed i gymryd rhan yn y cynllun. Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn bartneriaeth rhwng cwmni Castell HowellGarddwriaeth Cyswllt Ffermio a llu o dyfwyr bwyd brwdfrydig, gan gynnwys Patrick Holden o Fferm Bwlchwernen Fawr ger Llanbedr Pont Steffan.

Un o’r ysgolion fydd yn derbyn y llysiau yw Ysgol y Dderi yn Llangybi – ysgol sy’n agos at fferm Patrick a’r teulu ym Mwlchwernen. Aeth plant blynyddoedd 3 a 4 i ymweld â’r fferm ym mis Medi ac yn ystod yr ymweliad, fe wnaethant ddysgu am y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion a’r ffordd y mae moron sy’n cael eu tyfu y fferm yn cael eu cyflenwi i ysgolion ar ledled De a Gorllewin Cymru. Nid oedd Ceredigion yn rhan o’r cynllun ar y pryd felly aeth plant Ysgol y Dderi ati i ganfasio er mwyn cael moron Bwlchwernen yn rhan o’u cinio ysgol.

Y canlyniad oedd prosiect ysgol a oedd yn anelu at sicrhau bod llysiau lleol yn cyrraedd cegin Ysgol y Dderi. Estynnodd y plant wahoddiad i Gill Jones, Pennaeth Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion i ddod i siarad â nhw am y gwasanaeth prydau bwyd mewn ysgolion. Daeth Dafydd Walters o Gastell Howell i siarad am gadwyni cyflenwi ac ysgrifennodd y plant at y gwleidyddion lleol, yr Aelod Seneddol Ben Lake a’r Aelod o’r Senedd Elin Jones, ac aelodau o’r Cyngor, i ofyn a allent helpu i ddylanwadu a newid y ffordd y caiff llysiau eu prynu ar gyfer cinio ysgol. 

Un o’r gwleidyddion a glywodd am y gwaith yr oedd plant Ysgol y Dderi yn ei wneud oedd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, ac roedd yntau hefyd yn awyddus iawn i gynnwys mwy o gynnyrch Cymreig ym mhrydau ysgol y sir. Cafwyd trafodaeth ag aelodau o dîm y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn fuan ar ôl hynny, gan arwain at gynnwys Ceredigion yn rhan o’r prosiect. 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor: “Rwy'n hynod o falch bod Ysgol y Dderi, Ysgol Gynradd Aberteifi, Bro Siôn Cwilt ac Ysgol Plascrug yn cymryd rhan yn y prosiect hwn. Mae llysiau organig yn opsiwn llawer iachach i'n plant, ac mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol wrth leihau ôl troed carbon cludiant. Llongyfarchiadau i ddisgyblion y pedair ysgol am eu hymdrechion i sicrhau bod hyn yn cael ei gyflawni."

Meddai Heini Thomas, Pennaeth Ysgol y Dderi: “Roedd dosbarthiadau blwyddyn 3 a 4 wrth eu bodd o glywed eu bod wedi llwyddo i sicrhau bod moron Bwlchwernen ar fwydlen yr ysgol. Er bod y newid yn ymddangos yn syml, maen nhw’n gwerthfawrogi  ei bod yn broses hynod anodd mewn gwirionedd ac mae’n rhaid cael llawer o bobl ddylanwadol yn yr un ystafell ar yr un pryd sydd â’r un nod. Rwy’n falch iawn bod y plant wedi dysgu bod eu llais yn bwysig a bod pobl yn gwrando arnynt. Ac o’r diwedd - bydd moron Bwlchwernen yn cael eu gweini yn ystod amser cinio yn Ysgol y Dderi.”

Dywedodd y ffermwr Patrick Holden o Fferm Bwlchwernen: “Mae tyfu moron organig ar gyfer ysgolion Cymru, 18 mlynedd ers i ni eu tyfu ddiwethaf ar gyfer archfarchnadoedd, wedi bod yn brofiad ysbrydoledig. Mae’r ffaith eu bod  nhw’n mynd i gael eu cynnwys mewn prydau plant mewn ysgolion lleol, gan gynnwys Ysgol y Dderi, yr ysgol gynradd y bu fy mhlant yn ei mynychu, yn un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn hanes ein ffermio diweddar.”

Ychwanegodd Dr Amber Wheeler, arweinydd y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: “Rydym yn falch iawn bod Cyngor Sir Ceredigion wedi ymuno â’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion. Mae’n ysbrydoledig iawn gwybod mai’r plant fu’n gyfrifol am ddylanwadu ar y penderfyniad i gymryd rhan yn y cynllun a bod Arweinydd y Cyngor wedi gweithredu ar hynny. Daw’r rhan fwyaf o lysiau sy’n cael eu defnyddio yn Ysgolion Cymru o'r tu allan i’r wlad ar hyn o bryd, ac yn aml maen nhw wedi’u rhewi.  Mae’r cynllun peilot hwn yn dangos ei bod yn bosibl cynyddu cyfanswm y cynnyrch sy’n cael ei dyfu yng Nghymru, a chefnogi tyfwyr bwyd a ffermwyr yn sgil hynny, drwy ddefnyddio marchnad Prydau Ysgol Am Ddim yr Awdurdod Lleol.”

Meddai Katie Palmer, pennaeth Synnwyr Bwyd Cymru - yr elusen sy’n arwain gwaith Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: “Prif nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yw sicrhau bod mwy o lysiau lleol a chynaliadwy yn cael eu defnyddio mewn ysgolion i roi maeth i’r plant drwy brydau ysgol - y fwyaf o gynnydd y gallwn ei wneud, y mwyaf o fudd y gallwn ei gyflawni. Nid ydym yn cynhyrchu digon o lysiau yng Nghymru ac mae angen i ni ddatblygu ein cronfa ein hunain o gyflenwyr er mwyn creu budd i gymunedau lleol a lleihau ein dibyniaeth ar fewnforion drwy gysylltu tyfwyr bwyd lleol â chyfanwerthwyr lleol a chreu cysylltiadau sy’n helpu busnesau i ffynnu.”

Nod Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yw ailgynllunio cadwyni cyflenwi i’w gwneud yn fwy teg ac yn fwy cadarn. Mae hefyd yn adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn cael cynnig pryd ysgol am ddim a bod y bwyd sy’n cael ei ddefnyddio i goginio’r pryd hwnnw yn dod gan gyflenwyr lleol, pan fo hynny’n bosibl. Gan mai dim ond oddeutu chwarter y dognau llysiau y pen sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd, mae gan y cynllun Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion y gallu i ddatblygu’r farchnad er mwyn helpu i wireddu’r ymrwymiad hwn.

Ar hyn o bryd, ariennir Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion gan Gronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru a derbyniodd gyllid hefyd gan Pontio’r Bwlch – rhaglen a arweinir gan SustainGrowing Communities ac Elusen Alexandra Rose.

Mae Synnwyr Bwyd Cymru eisoes yn chwilio am ffrydiau cyllido ar gyfer y dyfodol i ddatblygu’r gwaith hwn ar ôl mis Mawrth 2025 ac i gynnwys mwy o dyfwyr bwyd, awdurdodau lleol a chyfanwerthwyr. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion, gallwch gysylltu â Synnwyr Bwyd Cymru drwy e-bostio foodsensewales@wales.nhs.uk

Gallwch wylio fideo sy’n esbonio’r prosiect yma.