Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y diweddaraf am Gynlluniau Teithio Llesol yng Ngheredigion

Cafodd Cam 1 ‘Llwybr Cyswllt Teithio Llesol Waunfawr i IBERS’ ei gwblhau yn Ebrill 2024 ac mae gwaith adeiladu yn mynd rhagddo ar gamau nesaf y cynllun.

Yn ôl yr amserlen, dylai darn o lwybr cyd-ddefnyddio newydd gerllaw TRA487 gael ei gwblhau ym mis Ebrill, gyda’r gwaith o gyflawni’r darn hwn yn cael ei arwain gan Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru.  Mae’r darn nesaf, o Gyffordd Dorglwyd at yr arhosfan bws ger Ystâd Brongwinau wedi’i raglennu ar gyfer gwaith adeiladu yn y Flwyddyn Ariannol nesaf, ac unwaith bod y cyfan wedi’i gysylltu, bydd Camau 1 a 2 y cynllun wedi’u cwblhau. Mae llwybrau cyd-ddefnyddio yn cynnig darpariaeth benodol a mwy diogel ar gyfer beicwyr a cherddwyr sydd am wneud siwrneiau teithio llesol i’r gwaith.

Mae’r gwaith o adeiladu llwybr cyd-ddefnyddio newydd hefyd yn mynd rhagddo ger croesffordd IBERS, sy’n ffurfio un o ddarnau Cam 3. Mae cais am grant wedi’i gyflwyno i Trafnidiaeth Cymru ar gyfer darn arall o lwybr o fewn Cam 3 ac os bydd hwnnw’n llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yma hefyd yn y flwyddyn ariannol nesaf. 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylchedd a Rheoli Carbon: “Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd y llwybr newydd hwn yn helpu i gysylltu cymunedau Bow Street, Penrhyn-coch a Chomins Coch ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ond yn bwysicach, mi fydd y rhain i gyd wedi’u cysylltu ag Aberystwyth, sy’n ganolfan gwasanaethau allweddol ar gyfer addysg, trafnidiaeth, hamdden a chyflogaeth yn yr ardal.  Am fod y cynllun hwn yn un mawr, mi fydd angen mwy o gymorth grant sylweddol cyn iddo gael ei gwblhau’n llwyr. Fodd bynnag, gwnaed cynnydd gwych hyd yn hyn, gyda’r gwaith adeiladu eisoes yn mynd rhagddo, a dwi’n gwybod bod cymunedau lleol yn edrych ymlaen yn eiddgar at ddefnyddio’r llwybr hynod safonol hwn yn y dyfodol agos.”

Yn Rhydyfelin, mae gwaith adeiladu wedi’i gwblhau’n ddiweddar ar ddarn newydd o lwybr troed i helpu i wella’r cysylltedd rhwng darnau oddi ar y ffordd o Lwybr Ystwyth. Mae mynediad i gerddwyr wedi gwella erbyn hyn hefyd o ganol y pentref i Lwybr Ystwyth. Mae mesurau gostegu traffig newydd wedi’u gosod i helpu i wneud y darn cyswllt sy’n dal i fod ar hyd y ffordd yn fwy diogel, a hefyd mewn ymateb i bryderon trigolion lleol bod y ffordd hon yn cael ei defnyddio gan rai i osgoi traffig ar adegau prysur o’r dydd. Gan weithio mewn cytundeb â pherchennog tir lleol, mae dwy set o gatiau mynediad i Lwybr Ystwyth wedi’u tynnu hefyd. Mae hwn yn rhan o waith parhaus i gael gwared â rhwystrau, i’w gwneud hi’n haws ac yn fwy cyfleus i ddefnyddio llwybrau teithio llesol. Mae darn byr o Lwybr Ystwyth yn Llanfarian hefyd yn fwy hygyrch ar ôl gosod wyneb tarmac yno’n ddiweddar.  Mae’r rhain yn gynlluniau ‘Mân Waith’ a ariannir gyda Grant Craidd y Gronfa Teithio Llesol gan Lywodraeth Cymru, a reolir gan Trafnidiaeth Cymru.

Ymhellach i’r de, mae Cam 3 Cynllun Llwybr Troed Rhiwgoch wedi’i gwblhau’n ddiweddar, i helpu i wella cysylltedd rhwng Ffos-y-Ffin ac Aberaeron. Mae hwn wedi’i ariannu gyda Grant Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru. Mae swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn dal i fod wrthi’n datblygu’r cynllun i geisio sicrhau’r darn olaf, sef Cam 4, a fydd yn cysylltu â Heol Llanbedr yn Aberaeron.

Ychwanegodd y Cynghorydd Henson: “Mae cynllun llwybr troed Rhiwgoch yn esiampl o’r ffordd y gall gymryd nifer o flynyddoedd i ddatblygu cynllun a’i gwblhau’n llwyr, gyda chydweithrediad y perchennog tir yn aml yn ffactor hanfodol. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymrwymo i ddal ati gyda’r cynlluniau hyn ac rwyf hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu cymorth grant parhaus. Drwy waith caled swyddogion y Cyngor rydym wedi llwyddo gyda’r ceisiadau grant hyn, yn aml yn cystadlu yn erbyn Awdurdodau mwy o faint, ac mae hyn wedi sicrhau bod y llwybrau teithio llesol yng Ngheredigion yn parhau i wneud siwrneiau yn fwy diogel. Mae’r cynlluniau Teithio Llesol hyn yn helpu i gysylltu cymunedau a darparu opsiynau teithio iachach a mwy cynaliadwy ar gyfer ein trigolion, wrth inni weithio tuag at ein huchelgais o leihau allyriadau carbon a chynnal targedau Aer Glanach.”

Beth am fwynhau un o’r llwybrau Teithio Llesol yn eich ardal chi? Gallwch ddod o hyd i fap o’r llwybrau yma: Teithio Llesol - Cyngor Sir Ceredigion