Stori gadwyn gan ddisgyblion Ceredigion, wedi’i hysbrydoli gan T. Llew Jones
I ddathlu Diwrnod T. Llew Jones ar 11 Hydref 2025, daeth pedwar ar ddeg o ysgolion cynradd ledled Ceredigion ynghyd i gymryd rhan mewn prosiect ysgrifennu cydweithredol unigryw wedi’i ysbrydoli gan y gerdd Yr Hen Dŷ Gwag gan y bardd a’r awdur T. Llew Jones.
Cafodd y prosiect ei gydlynu gan Dîm Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion, gyda 14 ysgol yn cael eu rhannu mewn i dri grŵp.
- Ysgol Llanarth
- Ysgol T.Llew.Jones
- Ysgol Gynradd Aberaeron
- Ysgol Dyffryn Cledlyn
- Ysgol Rhydypennau
- Ysgol Gynradd Aberteifi
- Ysgol Mynach
- Ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth
- Ysgol Llanfihangel y Creuddyn
- Ysgol Llechryd
- Ysgol Talgarreg
- Ysgol Llanfarian
- Ysgol Penrhyncoch
Gweithiodd pob grŵp gyda’i gilydd i greu “stori gadwyn”, gyda phob ysgol yn cyfrannu paragraff i ddatblygu’r naratif. Ysgrifennodd Mared Llwyd, awdur ac aelod o Dîm Cefnogi’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion, y paragraff agoriadol. Yna, cafodd ei drosglwyddo i’r ysgolion drwy gyfarfodydd Teams, lle ychwanegodd pob ysgol eu cyfraniad creadigol eu hunain.
A beth oedd y canlyniad? Cafwyd tair stori gyffrous a gwreiddiol, yn arddangos dychymyg a gwaith tîm disgyblion ifanc Ceredigion.
Dywedodd Mared Llwyd, awdur ac aelod o Dîm Cefnogi’r Gymraeg Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r prosiect hwn wedi profi bod plant Ceredigion yn parhau i fwynhau’r syniad o antur a dirgelwch sy’n rhan mor greiddiol o nofelau T. Llew Jones. Ry’n ni’n gobeithio bod y cyfle i fod yn rhan o’r broses o ysgrifennu’r straeon cadwyn wedi ysgogi creadigrwydd a dychymyg y dysgwyr ifanc, ac wedi annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron i fwynhau gwaith Y Llew Frenin. Ry’n ni hefyd yn sicr eu bod nhw wedi mwynhau ac elwa o gydweithio a rhwydweithio’n ddigidol â disgyblion eraill o bob cwr o’r sir.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Dyma enghraifft wych o sut mae ein hysgolion yn meithrin creadigrwydd, cydweithredu a chariad at lenyddiaeth Gymraeg ymhlith dysgwyr ifanc. Mae T. Llew Jones yn parhau i fod yn ffigwr aruthrol ym myd adrodd straeon Cymreig, ac mae’n galonogol gweld ei waddol yn cael ei ddathlu mewn ffordd mor ddychmygus a chynhwysol. Hoffwn longyfarch y disgyblion a’r staff i gyd a diolch i Dîm Cefnogi’r Gymraeg am arwain mentergarwch mor lwyddiannus sy’n cysylltu cymunedau ar draws Ceredigion.”
Ar drothwy’r gwyliau hanner tymor, gallwch chi fwynhau’r straeon hyn eich hun. Dilynwch y dolenni canlynol sy’n cynnwys clipiau wedi’u recordio gan Rhiannon Salisbury, Anwen Jones a Mared Llwyd: