Skip to main content

Ceredigion County Council website

Siarter Iaith Ceredigion yn lansio Cynefin ar Gân ar Ddydd Miwsig Cymru

Ar Ddydd Miwsig Cymru, 07 Chwefror 2025, mae Siarter Iaith Ceredigion yn falch iawn o lansio 6 cân newydd - Cynefin ar Gân.

Dechreuodd y prosiect nôl yn nhymor yr Hydref pan oedd cyfle i Gyngor Cymreictod ysgolion cynradd y Sir ddod ynghyd yn ei hardaloedd i gydweithio ar greu geiriau i ganeuon am eu cynefin. Roedd cyfle i’r Cynghorau Cymreictod weithio gyda beirdd lleol o Geredigion. Cafwyd yr ysgolion gyfle i weithio gyda:

  • Ysgolion Cylch Aeron - Dwynwen Lloyd Llywelyn
  • Ysgolion Cylch Llandysul ac Aberteifi - Ceri Wyn Jones
  • Ysgolion Cylch Llambed a Thregaron - Enfys Hatcher Davies
  • Ysgolion Cylch Aberystwyth - Arwel Rocet Jones

Yn dilyn creu’r geiriau, cafwyd gyfle i gydweithio gyda’r cerddor Mei Gwynedd i greu alawon i’r geiriau gwych. Yna, ym mis Ionawr, daeth y cyfle i’r disgyblion i ddod ynghyd i recordio’r caneuon gyda Mei Gwynedd. Cafwyd pedwar diwrnod arbennig, yn sicr, digwyddiad a phrofiad fydd yn aros yng nghof y disgyblion.

Dywedodd Anwen Eleri, Swyddog Cefnogi’r Gymraeg mewn ysgolion Ceredigion: “Roedd y disgyblion wrth eu bodd, roedd yn gyfle i efelychu sêr byd enwog y sin gerddoriaeth wrth recordio’r caneuon. Cafodd yr Ysgolion Trosiannol y cyfle arbennig i gydweithio gyda’r rapiwr amryddawn Mr Phormula i greu geiriau a rap dwyieithog. Roedd yn ffordd wych i ddangos i’r disgyblion bod modd gweithio yn ddwyieithog.”

Ychwanegodd Anwen: “Rydym yn falch iawn o’r holl waith a’r gefnogaeth sydd wedi bod i’r prosiect Cynefin ar Gân, mae yn sicr wedi bod yn brosiect cyffrous. Roedd hefyd yn gyfle arbennig i weithio gyda’r beirdd a cherddorion eraill ein gwlad.”

Gellir clywed y caneuon yma: https://drive.google.com/drive/folders/1mirswi__0-xM7DkPjM8roowZRFaLWjHz?usp=drive_link a byddant ar gael ar platfformau digidol yn fuan.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r prosiect hyn wedi cynnig ffordd hwyliog i ddisgyblion ddysgu am eu cynefin. Mae’r disgyblion wedi cael y cyfle i gydweithio a rhwydweithio a'i gilydd, i ddod i adnabod eu cynefin, i gyfrannu’n ysgrifenedig a recordio ei cân nhw. Da iawn pawb!”

Bydd y cyfan yn cael ei lansio mewn Gig Mawr Dydd Miwsig Cymru ym Mhafiliwn Bont ar 07 Chwefror 2025 lle bydd 650 o ddisgyblion cynradd yn dod ynghyd i weld Morgan Elwy a’r Band a Mei Gwynedd a’r Band yn perfformio. Bydd caneuon Cynefin a’r Gân hefyd yn cael ei pherfformio gyda’r disgyblion a Mei Gwynedd.