Skip to main content

Ceredigion County Council website

Sesiwn galw heibio effeithlonrwydd ynni ar gyfer trigolion Ceredigion

Gwahoddir preswylwyr Ceredigion i fynychu sesiwn galw heibio effeithlonrwydd ynni a drefnir gan Wasanaeth Tai Cyngor Sir Ceredigion.

Cynhelir y sesiwn i roi cyfle i breswylwyr archwilio'r cynlluniau sydd ar gael ac i dderbyn cyngor ar fesurau effeithlonrwydd ynni y gellir eu cymryd yn eu cartrefi i helpu i liniaru biliau tanwydd uchel a lleihau allyriadau carbon. Cynhelir y sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Llesiant Llanbedr Pont Steffan, ddydd Gwener 21 Chwefror 2025, rhwng 11.30 a 16.00.

Ers dechrau’r argyfwng ynni ym mis Hydref 2021, mae’r bil ynni ar gyfartaledd wedi cynyddu’n sylweddol gyda llawer yn methu fforddio gwresogi eu cartrefi i’r tymheredd sydd ei angen i gadw’n gynnes ac yn iach, ac yn cwympo mewn i ddyled. 

Yn bresennol yn y digwyddiad bydd Canolfan Cyngor ar Bopeth Ceredigion, yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni (ar ran cynllun Nyth Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru), Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy i gynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a gwybodaeth am y gwasanaethau y gallant eu darparu i drigolion Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu’r Cyhoedd: "Mae hwn yn gyfle gwych i breswylwyr yng Ngheredigion fynd i'r Ganolfan Lles yn Llambed lle bydd partneriaid allweddol yn bresennol i ddarparu cyngor a gwybodaeth werthfawr i bawb. Wrth i ni barhau i fynd trwy'r argyfwng Costau Byw sy'n effeithio ar bawb, mae'n gyfle perffaith i breswylwyr ddysgu am y mesurau Effeithlonrwydd Ynni a allai fod yn addas ar gyfer eu heiddo, i gynyddu ei effeithlonrwydd thermol ac yna lleihau eu costau.”

Bydd gwybodaeth a chanllawiau hefyd ar gael ar Gymhwysedd Hyblyg 4 Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4 Flex) a Chymhwysedd Hyblyg Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr (GBIS Flex) y mae Cyngor Sir Ceredigion yn cymryd rhan ynddo. Mae ‘Cymhwysedd Hyblyg ECO4’ (ECO4 Flex) yn fecanwaith atgyfeirio aelwydydd o fewn y Cynllun ECO4 ehangach. Mae GBIS yn parhau â ffocws ECO4 ar leihau tlodi tanwydd a biliau ynni ond ei nod yw gosod mesurau effeithlonrwydd ynni yn gyflym i gronfa ehangach o aelwydydd yn y cartrefi lleiaf effeithlon.

Am ragor o wybodaeth ewch i Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni | Cyngor Sir Ceredigion.