Rhybuddion Tywydd Ambr am eira a rhew i Geredigion
Mae’r Swyddfa Tywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd Ambr ar gyfer y rhan fwyaf o Geredigion am eira a rhew rhwng 18:00 ar ddydd Sadwrn 4 Ionawr hyd at 12:00 ar ddydd Sul 5 Ionawr 2025. Cynghorir trigolion ac ymwelwyr i Geredigion osgoi siwrneiau nad ydynt yn hanfodol yn ystod y cyfnod hwn oherwydd fe ragwelir amodau teithio peryglus.
Hefyd, mae’r Swyddfa Tywydd wedi cyhoeddi rhybuddion tywydd melyn dros y sir gyfan am eira a rhew rhwng 12:00 ddydd Sadwrn 04 Ionawr tan 23:59 ddydd Sul 05 Ionawr 2024.
Rhagwelir y gall 3-7cm neu fwy o eira gronni mewn ardaloedd eang, gyda 15-30cm ar dir uchel yng nghanolbarth Cymru. Mae perygl hefyd y bydd glaw yn rhewi gan achosi rhew ar y priffyrdd.
Disgwylir y bydd oedi wrth deithio ar ffyrdd, a phosibilrwydd y gall trafnidiaeth gyhoeddus gael ei ohirio neu ganslo, a chynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i fod yn ofalus iawn os bydd teithio’n angenrheidiol. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn paratoi ar gyfer amodau rhewllyd a bydd yn trin y rhwydwaith trin â halen ymlaen llaw. (sy'n cyfateb i 21% o rwydwaith y Sir, yn ogystal â'r A44 a'r A487) yn unol â Chynllun Gwasanaeth y Gaeaf 2024-2025 - Cyngor Sir Ceredigion. Mae'n debygol y bydd amodau gyrru yn parhau i fod yn heriol ar arwynebau sydd wedi a heb eu trin dros y penwythnos oherwydd eira, rhew, a glaw yn rhewi.
Mae siawns y gall pŵer gael ei golli oherwydd y tywydd, felly byddwch yn barod trwy wifrio unrhyw storfeydd pŵer a fflach-lampau rhag ofn yr effeithir ar eich pŵer.
Os ydych wedi'ch ynysu oherwydd eira neu rew, dilynwch ganllawiau’r Swyddfa Dywydd: 5 tips for staying safe in snow
Galwch i mewn i weld unrhyw gymdogion bregus ac os ydych yn poeni yn eu cylch, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid (CLIC) ar 01545 570881 neu galwch GIG ar 111 os oes gennych unrhyw gonsyrn am eu hiechyd.
Gallwch ffonio 01545 574000 os oes gennych bryderon Gofal Cymdeithasol.
Mewn argyfwng (oriau y tu allan i’r swyddfa yn unig), ffoniwch Argyfyngau Gwasanaethau Cymdeithasol ar 0300 4563554.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y tywydd: www.metoffice.gov.uk