Rhowch y lle y maent yn ei haeddu i fywyd gwyllt
Wrth i ni agosáu at fisoedd yr haf, atgoffir ymwelwyr a thrigolion o Gôd Morol Gogledd a Gorllewin Cymru ym Mae Ceredigion, a’r cyngor i gadw o leiaf 100 metr i ffwrdd o fywyd gwyllt morol.
Y cyngor yw aros o leiaf 100 metr (hyd cae pêl-droed) i ffwrdd o unrhyw fywyd gwyllt, ar y dŵr, y clogwyni neu’r glannau. Gall hyn gynnwys morloi a dolffiniaid yn y dŵr, morloi sy'n cael eu tynnu allan ar y creigiau, adar rafftio ar y môr neu rai sy’n nythu ar y clogwyni. Mae hwn yn amser pwysig i adar môr nythu a gall aflonyddwch achosi i'w hwyau neu eu cywion gael eu taro oddi ar y clogwyni i'r môr. Dilynwch y Côd Morol ac arhoswch o leiaf 100 metr i ffwrdd.
Dywedodd Melanie Heath, Swyddog Ardal Forol Gwarchodedig Bae Ceredigion: “Os ydych chi'n dod ar draws unrhyw fywyd gwyllt sy’n sâl neu wedi’u hanafu, fel morlo neu ddolffin ar y lan, peidiwch â cheisio ymyrryd. Peidiwch â cheisio rhoi'r anifail yn ôl yn y dŵr eich hun. Maen nhw yna am reswm, oherwydd eu bod yn sâl neu wedi’u hanafu a bydd angen asesiad meddygol proffesiynol brys. Cadwch eich pellter a chadwch bobl eraill, cŵn a gwylanod i ffwrdd o'r bywyd gwyllt sydd ar eu pennau eu hunain.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’n bwysig i ddilyn y Côd Morol ac aros o leiaf 100 metr i ffwrdd. Rydym yn falch i weithio mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau i ddiogelu ein bywyd gwyllt ar hyd yr arfodir ac ar y tir.”
I roi gwybod am fywyd gwyllt sy'n sownd ar y lan, ffoniwch yr RSPCA ar 03001 234999 ar gyfer anifeiliaid byw, a’r Tîm Ymchwilio Morfilod ar gyfer anifeiliaid marw ar 08006 520333
Os hoffech roi gwybod am achosion o aflonyddu, gallwch wneud hynny yma: www.cardiganbaysac.org.uk/disturbance/
Mae Côd Morol Gogledd a Gorllewin Cymru ym Mae Ceredigion wedi'i ddatblygu gan Grŵp Cymru o Swyddogion Safle Morol Ewropeaidd.