Rhannwch eich barn ar y polisi diwygiedig ar gyfer Ymgysylltu a Chyfranogi
Hoffem glywed barn trigolion, grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid ar Bolisi Diwygiedig Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion.
Mae’r polisi hwn yn nodi sut y bydd y Cyngor yn gweithio gyda chymunedau i sicrhau bod lleisiau ledled Ceredigion yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u hystyried wrth lunio gwasanaethau lleol a gwneud penderfyniadau.
Cafodd y polisi diwygiedig ei lywio yn dilyn cyfnod o wrando ar farn y cyhoedd yn ystod yr haf ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i ymgysylltu yn gynhwysol, tryloyw ac ystyrlon. Mae hefyd yn cyd-fynd â safonau cenedlaethol ar gyfer cyfranogiad cyhoeddus ac yn cryfhau ein dull o sicrhau cydraddoldeb a hygyrchedd.
Rydym am sicrhau bod y polisi’n diwallu anghenion ein cymunedau ac yn cefnogi cydweithio effeithiol. Bydd eich adborth yn ein helpu i fireinio’r polisi fel ei fod yn gweithio i bawb yng Ngheredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau Strategol ac Ymgysylltu: "Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’n cymunedau. Mae’r polisi hwn yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael llais wrth lunio dyfodol Ceredigion. Cymerwch yr amser i rannu eich barn a’n helpu i wneud hyn yn iawn."
I gymryd rhan, ewch i’n tudalen ymgynghori: 2025 Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi - Cyngor Sir Ceredigion
Rhannwch eich barn ar-lein neu gofynnwch am gopi papur o’ch llyfrgell neu’ch ganolfan hamdden leol.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 4 Rhagfyr 2025 hyd 20 Ionawr 2026, ac yna bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu cyn i’r polisi terfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet ym mis Mawrth 2026.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cathryn Morgan, Rheolwraig Cydraddoldeb a Chynhwysiant
E-bost: partneriaethau@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 570881
05/12/2025