
Rhannwch eich barn ar Bolisi Ymgysylltu a Chyfranogi Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu ei Bolisi Ymgysylltu a Chyfranogi cyfredol ac eisiau eich barn am yr hyn y dylid ei gynnwys yn y polisi wedi'i ddiweddaru.
Bydd pawb sy'n byw neu'n gweithio yng Ngheredigion yn defnyddio rhai o wasanaethau’r cyngor, gan gynnwys y staff. Gallai hyn fod yn defnyddio’r ffyrdd, ysgolion, llyfrgelloedd neu gasgliadau gwastraff. Mae'n bwysig bod y cyngor yn gofyn am eich barn pan fydd yn gwneud newidiadau i'r ffordd mae’n gwneud pethau.
Mae’r polisi Ymgysylltu a Chyfranogi cyfredol yn amlinellu sut mae Ceredigion yn ymgysylltu gyda chymunedau. Wrth i'r Cyngor edrych i adfer y polisi hwn, mae’r cyngor am sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion a disgwyliadau'r bobl sy’n derbyn y gwasanaethau. Gallwch weld y polisi yma: www.ceredigion.gov.uk/media/0yqa5kin/polisiymgysylltuachyfranogicyngorsirceredigionmai2022.pdf
Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiogelu'r Cyhoedd: “P'un a ydych chi wedi mynychu cyfarfod cymunedol, wedi ymateb i arolwg, neu wedi ein dilyn ar gyfryngau cymdeithasol - neu hyd yn oed os nad ydych wedi ymgysylltu â ni o gwbl - mae eich adborth yn werthfawr. Dyma eich cyfle i helpu i lunio sut mae eich awdurdod lleol yn ymgysylltu, yn gwrando, ac yn ymateb i bobl Ceredigion”.
Bydd yr ymgysylltiad hwn yn rhedeg am gyfnod o 8 wythnos tan ddydd Sul 31 Awst, 2025. Gallwch gymryd rhan drwy ymweld â'r wefan: www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/2025-polisi-ymgysylltu-a-chyfranogi/ neu gofyn am y wybodaeth yn eich llyfrgell neu ganolfan hamdden leol.
Gallwch hefyd fynychu grŵp ffocws ar-lein neu'n wyneb i wyneb yn Aberaeron ar 15 Gorffennaf, Aberystwyth ar 17 Gorffennaf neu Aberteifi ar 24 Gorffennaf. I gofrestru, ewch i Cofrestru ar gyfer Grŵp Ffocws - Polisi Ymgysylltu a Chyfranogi Cyngor Sir Ceredigion 2025. Am ragor o wybodaeth am y grwpiau ffocws, cysylltwch â Carys Huntly ar 01545 570881 neu ewch i wefan y Cyngor.
Bydd eich ymatebion yn helpu’r Cyngor i ysgrifennu'r polisi drafft a byddwn yn dod yn ôl atoch i ofyn eich barn ar y drafft hwn nes ymlaen yn y flwyddyn.