Rhaglen cyflogaeth Ceredigion wedi helpu Calvin i gael swydd
Mae Calvin, sy'n 26 oed ac o Aberystwyth, wedi derbyn cymorth i gael gwaith drwy'r rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Lleol (CChLl). Symudodd Calvin i'r ardal o Lundain yn 2022 i ofalu am ffrind, ac mae wedi bod yn ddi-waith ers iddo symud. Ym mis Tachwedd 2023 cafodd ei gyfeirio i Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion a’i gyflwyno i’w fentor Misha.
Pan ymunodd Calvin â rhaglen CChLl, roedd yn amlwg fod ganddo’r gallu i wneud cais am swyddi’n annibynnol ond roedd yn gwerthfawrogi’r cymorth wyneb i wyneb. Mewn cyfarfodydd rheolaidd â’i fentor cyflogaeth Misha, derbyniodd gymorth ar sut i wella ei ffurflen gais gan sicrhau bod ei CV yn rhagori, yn ogystal â chymorth i ysgrifennu llythyron yn cyflwyno ei hunan a chefnogaeth ar sut i ddatblygu sgiliau cyfweliad.
Awgrymodd Misha y dylai fynychu cwrs uwchsgilio a oedd yn cael ei gynnig gan y Tîm Cymorth Cyflogaeth, tra’n chwilio am swydd ar yr un pryd. Llwyddodd Calvin i gwblhau cwrs ‘Lletygarwch’ mewn partneriaeth â busnesau lleol.
Roedd Calvin wedi parhau i weithio gyda Misha tra’n chwilio am swydd a gyda’i chymorth hi, llwyddodd i ddod o hyd i swydd a chyflogwr delfrydol. Mae derbyn swydd llawn amser wedi cynnig trefn a sicrwydd ariannol i Calvin, mae hyn hefyd wedi galluogi Calvin i symud i fflat a rennir, gyda’r bwriad o arbed arian er mwyn cael fflat ei hun yn y dyfodol.
Dywedodd Calvin: “Mae’r prosiect yma nid yn unig wedi fy helpu i sicrhau cyflogaeth mewn gweithle gwych, ond mae hefyd wedi fy helpu i dderbyn a deall fy Awtistiaeth. Heb y cymorth ni fyddwn wedi cael cyfle i gwrdd â phobl arall fel fi. Roedd y cyfleoedd yn amrywio o’r cwrs lletygarwch i’r grŵp Awtistiaeth newydd yn Aberystwyth. Roedd fy mentor gwych Misha, wedi fy helpu ar hyd y ‘llwybr tywyll’ yma, gan fwrw goleuni ar fy sefyllfa a rhoi cymorth i mi sicrhau cyflogaeth a dealltwriaeth well o fy Awtistiaeth. Pe bawn yn cael y cyfle i droi’r cloc yn ôl a dewis llwybr gwahanol, byddwn yn dewis y llwybr yma eto. Mae Misha a’r prosiect wedi gwneud fy meddwl a fy nyfodol ychydig yn fwy clir.”
Dywedodd cyflogwr Calvin sef Darren o Timpson: “Mae Calvin yn aelod gwych o’r tîm, ac ni allaf diolch digon i Misha am gynorthwyo Calvin ac am gynnig arweiniad i ni am y ffordd orau o gynorthwyo Calvin yn ei gyflogaeth. Mae Calvin yn ffynnu ac mae’n aelod gwych o’r tîm.”
Dywedodd John Galbraith o’r Ganolfan Byd Gwaith: ‘’Dyma enghraifft arall eto o CChLl a Chyngor Sir Ceredigion yn cydweithio’n llwyddiannus gyda’r Ganolfan Byd Gwaith er mwyn cefnogi pobl i gael gwaith. Oni bai fod Misha wedi gweld yr hysbyseb am y swydd wag a anfonwyd gan yr anogwyr gwaith a thrydydd parti, ni fyddai wedi gwybod amdano, ac efallai y byddai Calvin wedi colli’r cyfle.’’
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae’r Tîm Cyflogaeth â Chymorth Lleol yn cyflawni gwaith pwysig iawn sy’n galluogi cyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr Ceredigion. Dwi’n falch o weld cyd-weithrediad arbennig rhwng y gwasanaeth, Canolfan Byd Gwaith, a’r cyflogwyr sydd wedi galluogi cyfle hwn i Calvin. Llongyfarchiadau Calvin!”
Yn 2024, mae’r Tîm Cymorth Cyflogadwyedd wedi cefnogi dros 300 o drigolion di-waith Ceredigion i chwilio am gyfleoedd cyflogaeth, gyda 40 o’r rhain yn cael eu cefnogi fel rhan o’r Cynllun Cyflogaeth â Chymorth Lleol (CChLl).
Darparir cymorth yn lleol gan Dîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion trwy gyfrwng y cynllun Cyflogaeth â Chymorth Lleol. Ariannir y cynllun gan yr Adran Gwaith a Phensiynau mewn partneriaeth â Chynghorau Ceredigion, Sir Benfro, a Sir Gâr. Mae’r prosiect yn cynnig cymorth i bobl 16 oed a throsodd sydd ag anabledd dysgu, neu awtistiaeth, i’w cynorthwyo i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yng Ngheredigion, anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf trwy ddilyn ein sianelau cyfryngau cymdeithasol:
Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.