
Rali Ceredigion 2025: Cymunedau, Diogelwch a Chynaliadwyedd wrth galon y rali eleni
Gyda dim ond dwy wythnos i fynd tan JDS Machinery Rali Ceredigion 2025, mae'r trefnwyr yn annog trigolion a busnesau ledled Ceredigion a Phowys i gynllunio ymlaen llaw, bod yn ymwybodol, a chymryd rhan yn yr hyn sy'n argoeli i fod yn rali fydd yn canolbwyntio fwyaf ar y gymuned.
Bydd y digwyddiad eleni, sy’n cael ei gynnal rhwng 5 a 7 Medi, yn gweld ffyrdd yn cau dros dro a llwybrau dargyfeirio. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i chi roi'r gorau i'r hyn rydych chi'n ei wneud – mae'n golygu cynllunio ymlaen llaw. Mae manylion llawn bellach ar gael ar-lein. Gofynnir i gymunedau ymgyfarwyddo â'r cynlluniau yn gynnar ac ymuno yn nathliadau’r rali yn ddiogel.
Mae'r trefnwyr wedi bod yn ymgysylltu'n weithredol â thrigolion a busnesau ar y llwybr dros y chwe mis diwethaf a bydd tocynnau cerbydau yn cael eu dosbarthu i sicrhau bod ganddynt fynediad addas yn ystod y cyfnodau byr o gau'r ffyrdd.
Mae Rali Ceredigion yn parhau i hyrwyddo cynaliadwyedd a diogelwch, gyda'r digwyddiad unwaith eto yn cynnal achrediad amgylcheddol yr FIA ac yn arddangos tanwydd carbon isel a cherbydau trydan. Bydd cyfres o sesiynau galw heibio cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli lleol yn newydd eleni, gan helpu i sicrhau bod y digwyddiad yn gadael gwaddol barhaol, gadarnhaol.
Yn y cyfnod cyn y rali, mae'r tîm wedi ymweld â 26 o ysgolion yn y rhanbarth, i gyflwyno briffiau diogelwch ymarferol a gweithgareddau addysgol hwyliog i dros 2,000 o ddisgyblion. Mae'r ymweliadau ysgol hyn yn un ffordd y mae Rali Ceredigion yn gweithio gyda'r gymuned i fagu cyffro a chodi ymwybyddiaeth am ddiogelwch a chyfranogiad yn y rali.
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae'r cyfrif i lawr wedi dechrau, ac mae ymdeimlad gwirioneddol o gyffro yn cynyddu ar draws y sir. Yn dilyn llwyddiant Pencampwriaethau Seiclo Prydain yn ddiweddar, mae Ceredigion yn falch o gynnal digwyddiad ar raddfa fawr unwaith eto sy'n dod â chymunedau at ei gilydd ac yn arddangos yr hyn sydd gennym i'w gynnig. Mae wedi bod yn wych gweld disgyblion ledled y sir eisoes yn cymryd rhan trwy ymweliadau ysgol y rali – dyma ffordd wych o ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a meithrin cyffro, balchder ac ysbryd cymunedol. Mae Rali Ceredigion yn ddathliad o'n lle, ein pobl, a'n potensial."
Eleni, bydd llwybr y rali yn ymestyn i ardaloedd ychwanegol yng Ngheredigion, gan roi cyfle i fwy o gymunedau brofi'r cyffro ac elwa o ymgysylltiad lleol y digwyddiad. Edrychwch ar wefan y Rali am fanylion pellach. Mae hyn yn cynnwys 'Cwrdd â Sêr a cheir Rali Ceredigion' ar gampws Prifysgol Llanbedr Pont Steffan ddydd Sadwrn 6 Medi am 9.30am a 4pm.
Dywedodd Charlie Jukes, Cyfarwyddwr Digwyddiadau Rali Ceredigion: "Mae cymuned a diogelwch wrth galon Rali Ceredigion. P'un a ydych chi'n gefnogwr chwaraeon moduro neu'n breswylydd lleol, mae cyfleoedd i gymryd rhan a dathlu'r hyn sy'n gwneud y rhanbarth hwn mor arbennig. Rydyn ni'n gweithio'n galed i roi gwybod i bawb ac i greu digwyddiad sy'n parhau i fod yn gynhwysol, cyffrous a chyfrifol."
Mae'r trefnwyr hefyd yn annog trigolion a busnesau i gefnogi'r rali trwy addurno adeiladau ac edrych am gyfleoedd pellach i ymgysylltu, gan gynnwys drwy weithgareddau Rali Engage sydd ar ddod ar bromenâd Aberystwyth.
Mae tocynnau bellach ar gael ar gyfer y parthau cefnogwyr swyddogol; yr unig leoliadau lle caniateir gwylio gan eu bod wedi'u dewis yn arbennig i ddarparu mynediad hawdd, parcio pwrpasol, ardaloedd gwylio gorau a chyfleusterau fel toiledau, sylwebaeth fyw a phwyntiau ailgylchu.
Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyngor i wylwyr, tocynnau ac amserlenni digwyddiadau yn www.raliceredigion.co.uk neu drwy ddilyn #RaliCeredigion2025 ar y cyfryngau cymdeithasol. Am wybodaeth ar gau ffyrdd, ewch i: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/gwaith-ffordd/caur-ffyrdd/