Skip to main content

Ceredigion County Council website

Prosiect Lluosi wedi talu ar ei ganfed i weithiwr Iechyd wrth ddysgu mathemateg

Mae Becky wedi gweithio yn y sector gofal ers 2016 gyda’r gobaith i fod yn nyrs gymwysedig. Yn ddiweddar, llwyddodd Becky i gael lle ar y ‘Cynllun Prentisiaeth Gofal Iechyd’ i weithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Yn gynharach eleni, wrth gyflwyno ei chais, sylweddolodd Becky bod angen cymhwyster TGAU mewn mathemateg ar gyfer y swydd. Er iddi deimlo bod ei sgiliau mathemateg yn dda, ni lwyddodd Becky i gael gradd C yn yr ysgol. Clywodd hi fod Dysgu Bro Ceredigion yn gynnig cwrs ‘Cymhwyster Sgiliau Hanfodol o Gymhwyso Rhif’ drwy brosiect ‘Lluosi’ y Gronfa Ffyniant a Rennir a fyddai'n rhoi cymhwyster cyfwerth â Mathemateg TGAU (graddau A-C) iddi.

Heb oedi, cysylltodd Becky gyda Dysgu Bro ynghylch y gwersi. Dywedodd: “Cefais gefnogaeth gwych o’r dechrau, gan dderbyn ymateb i fy neges e-bost o fewn yr un diwrnod, a dechrau'r cwrs bythefnos yn ddiweddarach”. Penodwyd tiwtor iddi a threfnwyd dyddiad ac amser addas ar gyfer y gwersi a oedd yn ffitio o amgylch ymrwymiadau gwaith Becky. Ychwanegodd: “Mae fy nhiwtor wedi bod yn wych, yn ddefnyddiol iawn ac yn amyneddgar gyda fy nysgu. Rwy'n colli ein sgyrsiau rheolaidd. Mae rhai o’r pethau a ddysgais na ddysgwyd yn yr ysgol. Nid oedd unrhyw bwysau ac roeddwn yn medru ymlacio, oherwydd roeddwn yn gallu dysgu ar fy nghyflymder fy hun. Mae gen i dri phlentyn ac rwyf yn gweithio, felly roedd yn ffitio’n dda gyda’r gwaith a bywyd teuluol.”

Mae Becky wrth ei bodd ei bod bellach wedi cyflawni ei chymhwyster, sydd wedi gwella ei hyder rhifedd yn sylweddol. Dywedodd yr oedd hi’n edrych ymlaen at y sesiynau gan wybod y byddai'n dysgu rhywbeth newydd bob wythnos. Mae hi’n bwriadu parhau ar ei siwrne fel Prentis Gofal Iechyd hyd nes y bydd hi’n nyrs gymwysedig. Dywedodd: “Ni fyddwn byth wedi gallu cael mynediad i'm prentisiaeth heb y cymhwyster mathemateg hwn, ac rwy'n ddiolchgar iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ysgolion a Dysgu Gydol Oes Ceredigion: “Mae’r sector gofal mor bwysig i drigolion Ceredigion ac mae’n dda gwybod fod Dysgu Bro wedi gallu cefnogi Becky i gyflawni ei dymuniad i ddilyn cwrs ac i weithio’n lleol. Llongyfarchiadau Becky.”

Mae Lluosi yn brosiect sydd wedi derbyn cyllid gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU i wella sgiliau rhifedd ymhlith oedolion yng Ngheredigion.

Mae Dysgu Bro yn cynnig ystod eang o gyrsiau i oedolion, o sgiliau TG i lythrennedd a rhifedd. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â ni ar 01970 633540 neu drwy e-bost ar admin@dysgubro.org.uk.