
Pobl Ifanc a Chwmni Theatr Arad Goch yn lansio ffilm fer bwerus i godi ymwybyddiaeth o alar a phrofedigaeth
Eleni, dathlwyd Diwrnod Ymwybyddiaeth Galar Cenedlaethol ar 30 Awst 2025, ac fel cydnabyddiaeth briodol o alar a phrofedigaeth, ac i'r rhai sy'n profi colled, lansiwyd ffilm fer a grëwyd gan bobl ifanc yn swyddogol ar 29 Awst 2025 yn Arad Goch, Aberystwyth.
Amcangyfrifir bod 127 o blant a phobl ifanc yn colli rhiant bob dydd yn y DU, gyda 78% o blant 11-16 oed yn dweud eu bod wedi colli perthynas agos neu ffrind, yn ôl un arolwg a gynhaliwyd gan Elusen Galar Winston’s Wish.
Daeth y syniad i greu'r ffilm fer, sydd wedi bod mewn cynhyrchiad ers 12 mis, gan bobl ifanc o Grŵp Llysgenhadon Cymunedol Aberystwyth, a benderfynodd eu bod am gyd-gynhyrchu darn creadigol, a fyddai'n codi ymwybyddiaeth ac yn datblygu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i wynebu galar a phrofedigaeth fel person ifanc, ac i dynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael yn lleol.
Yn wreiddiol, gwnaeth aelodau o Lysgenhadon Cymunedol Aberystwyth gais am Grant dan Arweiniad Ieuenctid, a ddyfarnwyd yn hael i ariannu'r prosiect gan Gymdeithas Sefydliadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO). Gyda hanes o waith partneriaeth rhagorol, cysylltwyd â Chwmni Theatr Arad Goch a chymerodd yr her o arwain y cynhyrchiad ieuenctid. Roedd cyfraniad gan yr elusen galar, Sandy Bear, yn hanfodol i'r prosiect, gyda Llysgenhadon Ieuenctid Sandy Bear yn garedig yn rhannu eu straeon a'u profiadau, gan lunio rhai o'r llinellau stori. Hefyd, yn ymddangos yn y ffilm mae profiadau bywyd go iawn person ifanc, Molly Grainger a sefydlodd flog ar-lein llwyddiannus i gefnogi eraill yn dilyn ei thaith ei hun o alar a cholled. Yn cymryd rhan flaenllaw fel actorion ifanc yn y ffilm, roedd disgyblion o adran ddrama Ysgol Gyfun Penweddig, gyda'r noson lansio hefyd yn cael ei chynnal gan ddau brif actor, Nel Dafis a Megan Griffiths. Bu pobl ifanc yn gweithio gydag Arad Goch, dan arweiniad y cyfarwyddwr ffilm, Carwyn Blayney, i greu stori a sgript, a ffilmio golygfeydd o gwmpas ardal Aberystwyth, cyn golygu'r lluniau a pharatoi llais, i greu ffilm fer, o'r enw 'Tyfu gyda Galar'.
Dywedodd Tiffany Davies, Gweithiwraig Cymorth Ieuenctid Ceredigion: “Gweithiodd y bobl ifanc yn anhygoel o galed i gynhyrchu ffilm fer bwerus, o’r dechrau i’r diwedd. Roedd eu creadigaeth yn darlunio profiadau bywyd go iawn pobl ifanc sydd wedi wynebu colli anwylyd. Nod y ffilm yw dangos bod pawb yn profi galar yn wahanol, a bod cefnogaeth ar gael allan yna. Sefydliad partner, Sandy Bear yw un sefydliad lleol sy’n cefnogi plant a phobl ifanc trwy gyfnodau anodd o golled. Mae’r prosiect wedi bod yn enghraifft ardderchog o gyd-gynhyrchu a gwaith partneriaeth, a dylai’r bobl ifanc dan sylw yn benodol, fod yn falch iawn o’u cyflawniad. Hoffem fynegi ein diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl; Cwmni Theatr Arad Goch, Sandy Bear, Ysgol Gyfun Penweddig, CAVO a’r bobl ifanc.”
Ychwanegodd Ffion Wyn Bowen, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch: “Roedd cyd-weithio gyda’r Cyngor Sir ar brosiect oedd yn rhoi pobl ifanc yn nghalon y gwaith yn fraint aruthrol i ni fel cwmni. Pobl ifanc yn rhannu eu profiadau a’u syniadau, yn trafod, yn tyfu mewn hyder ac yn datblygu eu sgiliau er mwyn creu ‘Tyfu gyda Galar, ffilm fer fydd yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl ifanc wrth wynebu colled, galar a phrofedigaeth. Mae’r diolch yn arbennig hefyd i elusen Sandy Bear am eu cyfraniad arbenigol amhrisiadwy i’r cynllun, ac yn benodol i’w llysgenhadon ifanc am eu sylwadau a’u dewrder.”
Dywedodd Molly Grainger, Gwirfoddolwraig Prosiect: “Rwy’n teimlo’n hynod lwcus a diolchgar o fod wedi bod yn rhan o’r ffilm fer ‘Tyfu gyda Galar’. Roedd y broses gyfan mor ddeallus, ac mae’r darn terfynol wedi cael effaith ddofn. Rwy’n falch o wybod y bydd yn adnodd ystyrlon i bobl ifanc yng Ngheredigion a thu hwnt.”
Mae'r ffilm fer ar gael i'w gwylio ar y linc yma https://vimeo.com/1112938154/21e55a560c?share=copy a'i bwriad yw ei defnyddio fel adnodd addysgol mewn ysgolion a lleoliadau eraill, i helpu rheini sy'n wynebu galar a phrofedigaeth.
I ddysgu mwy am y gefnogaeth sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd wedi colli eu bywydau yng Ngheredigion drwy Elusen Galar Sandy Bear, ewch i www.sandybear.co.uk/cy/
Am ragor o wybodaeth am waith Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/gwasanaeth-ieuenctid-ceredigion/ neu dilynwch nhw ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol; @GICeredigionYS ar Instagram ac X a Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service ar Facebook.
Am ragor o wybodaeth am waith Cwmni Theatr Arad Goch, ewch i https://aradgoch.cymru/