Perfformiad 3 Drama Theatr Bara Caws yn Theatr Felinfach
Mae Theatr Felinfach yn edrych ymlaen yn fawr i’ch croesawu i berfformiad ‘3 Drama’ gan Theatr Bara Caws ar 03 Ebrill 2025 am 19:30.
Cynhyrchiad o dair drama gan dri awdur a phum actor yn portreadu naw cymeriad gwahanol. Daw’r dramâu newydd yma yn sgil prosiect Sgen ti Syniad? (2), prosiect ysgrifennu gan Theatr Bara Caws. Yn serennu fydd Siôn Emyr, Mali O’Donnell, Mark Henry-Davies, Elena Carys-Thomas a Gareth John Bale.
Un o’r perfformiadau yma yw ‘Wisgi’ gan Carwyn Blayney, sy’n wreiddiol o Geredigion ac yn wyneb cyfarwydd iawn i Theatr Felinfach.
“Mae'n gyffrous iawn gweld Wisgi yn dod i Theatr Felinfach, fel rhan o daith tair drama fer” meddai Carwyn. “Ro'n i ar lwyfan Theatr Felinfach lot pan yn blentyn (gyda chaniatâd, dim jyst yn sbwylo perfformiadau eraill) felly fi'n edrych 'mlaen i weld cwmni mor eiconig â Bara Caws yn dod â fy nghymeriadau i yn fyw, ar lwyfan sydd yn golygu cymaint i mi.”
Yn ogystal â pherfformiad o ‘Wisgi’, bydd hefyd perfformiad o ‘Dishgled ‘da Del’ gan Cai Llewelyn Evans a ‘99er’ gan Ceri Ashe.
Dywedodd Carys Hâf, Cydlynydd Blaen Tŷ a Rhaglennu Theatr Felinfach: “Mae’n gyffrous croesawu Theatr Bara Caws i’r Theatr unwaith eto ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld cynnyrch newydd sbon yn cael ei berfformio ar lwyfan am y tro cyntaf.”
Am docynnau a gwybodaeth pellach ar y dramâu uchod ewch at wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau: 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk
Cofiwch hefyd ddilyn Theatr Felinfach ar Facebook, YouTube, X ac Instagram.