Skip to main content

Ceredigion County Council website

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i graffu ar braesept arfaethedig yr heddlu

Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2025.

Bydd aelodau'r Panel yn cyfarfod ddydd Gwener 24 Ionawr 2025 yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd i drafod y praesept ac i herio'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn ynghylch ei gynlluniau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Mae'r panel yn cynnwys aelodau a enwebwyd gan y pedwar cyngor yn ardal yr heddlu a dau aelod annibynnol, ac mae ganddynt y pŵer i gymeradwyo neu roi feto ar braesept arfaethedig yr heddlu.

Ariennir plismona lleol gan grant y Swyddfa Gartref, yn ogystal â chyfraniadau cyhoeddus drwy'r Dreth Gyngor, a adnabyddir fel praesept yr heddlu.

Yn ystod y cyfarfod bydd Mr Llywelyn yn rhoi gwybod i'r panel am ganfyddiadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar ar gyllido'r heddlu.

Dywedodd Cadeirydd y Panel, yr Athro Ian Roffe: “Fel Panel Heddlu a Throseddu, ein rôl ni yw craffu ar braesept arfaethedig Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu i sicrhau bod ei gyllideb ariannol yn gytbwys ac yn briodol i wasanaethu cymunedau Sir Gaerfyrddin, Powys, Sir Benfro a Cheredigion. Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar aelwydydd ac mae'n hynod bwysig, felly, bod Panel yr Heddlu a Throseddu yn ceisio sicrwydd bod unrhyw gynnydd mewn trethi preswylwyr yn adlewyrchu gwerth da am eu harian.”

Ewch i www.panelheddluathroseddudp.cymru i gael rhagor o wybodaeth am y Panel, ei aelodaeth, dyddiadau cyfarfodydd sydd ar y gweill, agendâu a dolenni gweddarlledu, yn ogystal â chyflwyno cwestiynau i'r Panel eu rhoi gerbron y Comisiynydd.

Gellir cyflwyno cwestiynau ar-lein, neu'n ysgrifenedig drwy anfon neges e-bost at panelheddluathroseddudp@sirgar.gov.uk o leiaf 10 diwrnod cyn cyfarfod.