Skip to main content

Ceredigion County Council website

Newidiadau i wasanaethau gwastraff Ceredigion ar y gweill

Diolch i ymdrechion trigolion a busnesau Ceredigion, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn un o’r Awdurdodau Lleol sy’n perfformio orau o ran ailgylchu ers nifer o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae cynnydd yn nhargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru a’r angen i leihau costau yn golygu bod angen gwneud newidiadau i gynyddu ailgylchu ymhellach.

O fis Ebrill 2025, bydd cartrefi yn cael eu cyfyngu i dri bag o wastraff na ellir ei ailgylchu fesul cylch casglu 3 wythnos. Ni fydd preswylwyr ychwaith yn gallu mynd â “bagiau du” heb eu didoli i bob un o Safleoedd Gwastraff Cartref y sir.

Mae polisïau “dim gwastraff heb ei ddidoli” ar waith mewn mannau eraill; mae hyn yn golygu y gofynnir i breswylwyr sydd am fynd â gwastraff gweddilliol i safle gwastraff cartref ddidoli eu gwastraff ac ailgylchu unrhyw beth y gellir ei ailgylchu. Mae hyn yn cael ei weithredu ar y safle ar Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Aberystwyth o 20 Ionawr 2025. Cynghorir trigolion i ddidoli eu gwastraff gartref cyn iddynt ymweld ag unrhyw un o Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion.

Mae'r newidiadau wedi'u cynllunio i helpu i gymell trigolion i ailgylchu mwy o'u gwastraff a helpu'r Sir i gynyddu ei hailgylchu ymhellach. 

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Er gwaethaf y cynnydd gwych rydym wedi’i wneud dros y blynyddoedd, trwy ymdrechion ailgylchu trigolion Ceredigion, mae dal dros hanner y gwastraff mewn “bagiau du” a gasglwyd yng Ngheredigion o hyd yn gallu cael ei ailgylchu. Mae hyn yn wastraff o adnoddau naturiol ac yn gost i ni i gyd fel trigolion.  Nid yw newid byth yn hawdd. Gwn ein bod i gyd yn poeni am Geredigion, a gwn y bydd ein trigolion yn deall yr angen am newid. Lleihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.” 

Yn benodol, mae'r Cyngor yn ceisio annog mwy o drigolion i ddefnyddio eu gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol ar wahân. 

Mae’r Cyngor eisoes yn casglu tua 3,400 tunnell o wastraff bwyd bob blwyddyn sy’n cael ei ailgylchu i gynhyrchu gwrtaith ac ynni adnewyddadwy, ond mae’r Cyngor yn canolbwyntio ar geisio dal y 1,500 tunnell o wastraff bwyd y credir ei fod yn mynd i sachau du trigolion yn flynyddol. 

Mae rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/ailgylchu-gwastraff-bwyd/