
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth yn symud
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth, sy’n farchnad boblogaidd iawn, yn symud, a hynny o ddydd Sadwrn, 16 Awst 2025. Cynhelir y farchnad yn ei lleoliad newydd ar y stryd wrth Neuadd y Farchnad ym mhen uchaf y dref.
O'r dyddiad hwn ymlaen, bydd y farchnad yn parhau â'i hamserlen reolaidd ar ddydd Sadwrn cyntaf a thrydydd bob mis, gydag oriau agor newydd o 9:00am tan 1:00pm.
Mae'r symudiad hwn yn dilyn pedair blynedd lwyddiannus ar safle Arriva yng Nghoedlan y Parc, lle manteisiodd y farchnad ar nifer da o ymwelwyr, man llwytho hawdd, a chyfleusterau parcio cyfleus. Fodd bynnag, mae sawl stondinwr rheolaidd bellach wedi mynegi awydd am newid, a gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ceredigion, sy'n rheoli'r farchnad, mae'r newid wedi'i wneud i gyd-fynd yn well â'u hanghenion. Bydd y safle blaenorol yn cael ei addasu i ymestyn ar gyfleusterau parcio’r Cyngor Sir ym maes parcio Maesyrafon.
Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld llawer o wynebau cyfarwydd ymhlith y stondinwyr, yn cynnig detholiad cyfoethog o gynnyrch lleol, bwydydd artisan, crefftau wedi'u gwneud â llaw, ac anrhegion unigryw, i gyd yn yr un amgylchedd cynnes a chroesawgar y mae'r farchnad yn adnabyddus amdano.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae’n werth ymweld â Marchnad y Ffermwyr yn Aberystwyth. Mae’n ganolfan fywiog o ddiwylliant lleol, lle mae cynhyrchwyr a thrigolion yn cysylltu, busnesau lleol yn ffynnu, a’r gymuned yn dod at ei gilydd i ddathlu bwyd gorau Ceredigion.”
I'r rhai sydd â diddordeb mewn cael stondin neu ddarganfod mwy am y farchnad, anfonwch e-bost at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk
Cofiwch ymweld â gwefan Marchnad Ffermwyr Aberystwyth i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
A dilynwch dudalen Facebook Marchnad Ffermwyr Aberystwyth i gadw llygad ar y newyddion i gyd: @Marchnad Marchnad Ffermwyr Aberystwyth.
Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 16 Awst, i gefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr lleol yn eu cartref newydd yng nghanol y dref.