Llwyddiant i Ysgol Bro Teifi ac Ysgol Llwyn yr Eos yng Nghystadleuaeth Cwis Dim Clem 2025
Bu Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cynnal Cwis Dim Clem Sirol eleni eto ar gyfer Ysgolion Cynradd Ceredigion.

Bu Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cynnal Cwis Dim Clem Sirol eleni eto ar gyfer Ysgolion Cynradd Ceredigion.
Gwnaeth 15 o ysgolion cynradd y Sir gystadlu yn y rownd sirol gydag Ysgol Bro Teifi yn cipio’r wobr gyntaf, Ysgol Aberaeron ac Ysgol y Dderi yn gydradd ail ac Ysgol Rhydypennau yn drydydd.
Am y tro cyntaf eleni, cynhaliwyd cwis arbennig i Ysgolion Categori Trosiannol y Sir er mwyn hybu’r Gymraeg a Chymreictod o fewn yr ysgolion hynny. Cymerodd 5 ysgol ran gydag Ysgol Llwyn yr Eos yn cipio’r wobr gyntaf, Ysgol Bro Pedr yn ail ac Ysgol Cei Newydd yn drydydd.
Aeth Ysgol Bro Teifi ymlaen i gystadlu yn Rownd Rhanbarthol y Cwis gan gipio’r pedwerydd safle. Dywedodd un athrawes: “Roedd y plant wedi mwynhau’r cwis yn fawr iawn ac wedi dysgu nifer o ffeithiau am Gymru.”
Dywedodd Hannah James, Swyddog Datblygu Cered: “Roedd hi’n wych gweld cymaint o blant yn cystadlu eleni eto ac yn dangos cymaint o frwdfrydedd tuag at Gymreictod. Braf hefyd oedd cael cynnal cwis i ysgolion trosiannol y sir eleni er mwyn codi eu hyder hwy yn y Gymraeg.”
Ychwanegodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Hamdden, Gwasanaethau Cwsmeriaid, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg: "Mae cwis yn ffordd mor wych o greu diddordeb mewn pynciau a mae’r Cwis Dim Clem Sirol wedi ysgogi cymaint o ddisgyblion i ymddiddori yn Nghymru, ei gorffennol a’i phresennol. Llongyfarchiadau i bawb am fod yn rhan o’r cwis ac yn arbennig i Bro Teifi a Llwyn yr Eos."
Mae Mentrau Iaith Cymru wedi trenu Cwis Dim Clem yn genedlaethol ar gyfer blwyddyn 6 ysgolion cynradd ers 2021. Mae’r cwis yn llwyddiant enfawr bob blwyddyn gyda disgyblion yn ateb cwestiynau am gerddoriaeth, daearyddiaeth a hanes Cymru mewn ffurf weladwy a deniadol.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i ddilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol:
- Facebook: Cered: Menter Iaith Ceredigion
- X: @MICered
- Instagram: menteriaithceredigion