Llwyddiant i Dîm Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Cymru
Cymerodd 231 o ddisgyblion Ceredigion, ar draws chwe ysgol, ran yng Nghynllun Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn ystod y gwyliau haf yn 2025.
Mae'r Cynllun Bwyd a Hwyl, menter a ariennir gan grant CLlLC, yn rhaglen addysg mewn ysgolion sy'n darparu addysg bwyd a maeth, gweithgareddau corfforol, sesiynau cyfoethogi a phrydau bwyd iach am ddim i blant a phobl ifanc ledled Cymru yn ystod gwyliau'r haf.
Rhan hanfodol o'r cynllun yw i blant dderbyn brecwast a chinio iach bob dydd. Mae'r darpariaeth bwyd wedi'i gynllunio a'i gyflwyno'n ofalus gan Dîm Arlwyo Cyngor Sir Ceredigion. Cafodd gwaith clodwiw y tîm hwn ei gydnabod yn ddiweddar am eu cyfraniad yng Ngwobrau Dathlu 10 Mlynedd Bwyd a Hwyl Cymru, a gynhaliwyd ar 06 Tachwedd 2025 yng Nghaerdydd. Daeth dros 130 o fynychwyr ynghyd i nodi dathliad 10 mlynedd Bwyd a Hwyl, a chafwyd noson o wobrwyo cyfraniadau rhagorol i gynlluniau ledled Cymru.
Cafodd Gillian Jones, Rheolwraig Arlwyo, a'i thîm eu henwebu am wobr, am eu cyfraniad rhagorol at arlwyo fel rhan o’r Cynllun Bwyd a Hwyl. Cyrhaeddodd Gillian a'i chydweithwyr y rhestr fer a dyfarnwyd gwobr arlwyo 'canmoliaeth uchel' iddynt, a gyflwynwyd gan Gareth Thomas, Rheolwr Bwyd mewn Ysgolion, CLlLC. I gefnogi'r wobr ganmoliaeth uchel, dywedodd cydweithwyr CLlLC: “Mae Gill a'i chydweithwyr yn cymryd rhan weithredol ym mhob cynllun Bwyd a Hwyl sy'n golygu y gall plant a theuluoedd ddod i adnabod ac ymgysylltu â staff arlwyo yn ogystal â staff eraill. Maent wedi helpu i wneud bwyd yn hwyl ac yn addysgiadol, gyda rhai plant yn rhoi cynnig ar ffrwythau a llysiau am y tro cyntaf erioed. Maent yn ymdrechu i gasglu adborth parhaus gan blant, rhieni a staff i wella'r cynnig bwyd a'r profiad.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod y Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae hwn yn gamp arbennig i Dîm Arlwyo Ceredigion, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gan ddisgyblion ledled Ceredigion y cyfle i gymryd rhan mewn Cynlluniau Bwyd a Hwyl, a derbyn prydau maethlon a chytbwys. Ni fyddai’n bosibl ymestyn y cynllun ar draws chwe ysgol gynradd heb ymrwymiad y staff arlwyo, sy’n gweld gwerth yn y profiadau pwysig hyn i’n plant a’n pobl ifanc.”
Dywedodd Lowri Evans, Arweinydd Bwyd a Hwyl ar gyfer yr Awdurdod Lleol, a enwebodd Gillian a'i thîm: “O dan arweinyddiaeth Gill, mae'r gwasanaeth arlwyo wedi sicrhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn unig, fod dros 400 o blant wedi derbyn brecwast a chinio yn ystod eu hamser yn mynychu cynllun Bwyd a Hwyl. Mae llawer o waith yn gysylltiedig â chydlynu timau ar draws gwahanol gynlluniau, a chynllunio bwydlenni addas yn unol ag egwyddorion Bwyd a Hwyl, er mwyn sicrhau rhagoriaeth faethol. Fel Awdurdod, mae'n bwysig i ni gydnabod y cyfraniad amhrisiadwy a wneir gan y gwasanaeth arlwyo fel rhan o'r fenter hon.”
Gellir gwylio ffilm hyrwyddo Bwyd a Hwyl 2025 yma:
12/11/2025