Skip to main content

Ceredigion County Council website

Llwyddiant i ddisgybl Ceredigion yng Ngwobrau Arloesi

Mae disgybl o Ysgol Uwchradd Aberteifi, Molly Newland, wedi cyrraedd y brig yng Ngwobrau Arloesedd 2024 a drefnir gan CBAC a Llywodraeth Cymru.

Ers dechrau'r Gwobrau Arloesi mawreddog gan CBAC a Llywodraeth Cymru 25 mlynedd yn ôl, mae Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi cyrraedd rownd derfynol y digwyddiadau yn aml ac yn ystod y cyfnod hwnnw maent wedi ennill yr holl wobrau sydd ar gael.

Datblygwyd y Gwobrau Arloesedd ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a'u nod yw ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan eu hannog i ailfeddwl dyluniadau confensiynol cynhyrchion a gwasanaethau bob dydd. Yn dilyn ymlaen o'r blynyddoedd blaenorol, roedd y dathliadau, a gynhaliwyd am y 24ain tro, yn arddangos talent greadigol ein pobl ifanc yng Nghymru. Mae'r digwyddiad hefyd yn adlewyrchiad o lwyddiant dyfeiswyr Cymru ac mae'n cydnabod eu cyfraniadau.

Cafodd 75 prosiect eu dewis am yr arddangosfa o Gymru gyfan, gyda pump o Ysgol Uwchradd Aberteifi gyda Molly yn ennill y categori UG ac enillydd cyffredinol Gwobrau Arloesi 2024. Fe wnaeth Molly ddylunio a chreu bwrdd achub GRP wedi'i anelu at ei ddefnyddio gan yr RNLI y gellir ei storio'n hawdd a'i anfon i'r môr neu'r afon, ei gysylltu â'r anafedig, ac yna ei ddefnyddio i dynnu'r anafedig o'r dŵr gan ddefnyddio system pwli gyda dim ond angen un person i'w weithredu.

Dywedodd Molly Newland, disgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi, Enillydd Cyffredinol: “Rwy’n ddiolchgar iawn mod i wedi ennill y wobr UG a hefyd y Brif Wobr. Roedd pawb wedi creu prosiectau anhygoel, felly mae hon yn gystadleuaeth anodd iawn i’w hennill. Mae bod yma a chyrraedd y rhestr fer hefyd yn golygu cymaint. Mae ennill hyd yn oed yn fwy o fraint. Hoffwn longyfarch pawb arall wnaeth gyrraedd y rownd derfynol. Rwyf mor falch o ennill a hoffwn ddiolch i’m teulu, fy athrawon a’r ysgol am eu holl gefnogaeth.” 

Cyhoeddodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC yn ei araith y dylai pawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni fod yn falch iawn ohonynt eu hunain a’u bod bellach yn ymuno â chlwb elitaidd o tua 250 o fyfyrwyr a oedd wedi ennill gwobr arloesi allan o dros 350,000 o fyfyrwyr dros y 25 mlynedd, gydag Ysgol Uwchradd Aberteifi yn dod i’r brig gyda dwy wobr yn yr amser hwnnw. Er bod yr ysgol wedi bod yn enillydd cyson, nid yw'r wobr gyffredinol wedi'i hennill ers 2008.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle i bobl ifanc fod yn greadigol mewn ffordd arloesol ac mae’n wych gweld presenoldeb mor dda gan Ysgol Uwchradd Aberteifi yn y gwobrau. Llongyfarchiadau enfawr iti Molly ar y gamp anhygoel yma.”

Mae’r Gwobrau Arloesedd yn gyfle i arddangos y gwaith prosiect mwyaf creadigol ac arloesol ar gyfer Lefel A a TGAU mewn Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru. Pwrpas y digwyddiad yw annog pobl ifanc i fod yn dechnolegol arloesol a gwerthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Dywed y llywodraeth fod meddylfryd arloesol yn hanfodol i ffyniant Cymru yn y dyfodol. 

Yn cyflwyno’r wobr i Molly a’i hathro Mr Emyr James roedd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC, yr Athro Jas Pal Badyal, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru ac Abi Phillips, Pennaeth Arloesedd Llywodraeth Cymru.