Llwyddiant Gweithdai Cyflogadwyedd yng Ngheredigion
Yn ystod 2024, gwnaeth Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Cyngor Sir Ceredigion beilota gweithdai wedi’u teilwra ar gyfer pobl sy’n derbyn cymorth gan brosiect Cymunedau am Waith+, sef prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Mae Cymunedau am Waith+ yn cynorthwyo pobl sydd ddim mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, ac sy’n cael eu tangynrychioli yn y farchnad waith i ddod o hyd i swyddi ag i aros mewn swyddi.
Cynlluniwyd y gweithdai i gynyddu cyfleoedd cyflogaeth ag i hyrwyddo lles a chymdeithasu tra’n gweithio mewn partneriaeth gyda busnesau a gwasanaethau yng Ngheredigion.
Y partneriaid a gefnogodd y gweithdai oedd Y Banera, Gwesty’r Marine, Distyllfa ‘In the Welsh Wind’, Gwasanaethau Glanhau ac Arlwyo Ysgolion Cyngor Sir Ceredigion, Ceredigion Actif a Dysgu Bro Ceredigion. Darparwyd hyfforddiant, gwybodaeth a sgiliau er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth i’r preswylwyr sy’n cael cymorth gan Cymunedau am Waith+ yng Ngheredigion.
Dywedodd Nia Roberts, Perchennog Y Banera yn Aberystwyth: “Mae wedi bod yn bleser i addysgu sgiliau i’r unigolion, a fydd yn eu helpu i symud ymlaen, datblygu a sicrhau cyflogaeth.”
Hyd yn hyn, mae’r gweithdai wedi ymgysylltu â 47 o gyfranogwyr ac mae 19 ohonynt wedi cychwyn mewn cyflogaeth. Roedd y peilot yn cynnig cyfle i gyfranogwyr gyfarfod a hyfforddi gyda chyflogwyr lleol, meithrin cyfeillgarwch newydd, datblygu hyder, a meithrin sgiliau a’u gwybodaeth er mwyn paratoi i gael cyflogaeth.
Dywedodd Ellen Wakelam, Cyd-sylfaenydd a Pherchennog/Cyfarwyddwr Distyllfa In the Welsh Wind: "Roeddem yn falch i groesawu’r grŵp i’r ddistylla ac esbonio iddynt yr hyn a wnawn, yn ogystal â chynnig dealltwriaeth iddynt o’r ffordd y gall lletygarwch weithio mewn lleoliad nad yw’n un cyffredin. Hoffem ddymuno pob llwyddiant i’r holl gyfranogwyr yn y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Mae’r Tîm Cyflogaeth â Chymorth Lleol yn cyflawni gwaith pwysig iawn sy’n galluogi cyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr Ceredigion. Dwi’n falch o weld cydweithrediad arbennig rhwng y gwasanaeth a busnesau lleol sydd wedi rhoi cyngor i breswylwyr y sir i fedru llwyddo i dderbyn swydd yn y dyfodol agos.”
Dywedodd un o'r cyfranogwyr a gymerodd ran yn y gweithdy ‘Cyflwyniad i Letygarwch’ ac a sicrhaodd gyflogaeth yn y sector lletygarwch: “Diolch o galon, hwn yw’r unig brofiad cadarnhaol rwyf wedi’i gael ar fy nhaith wrth chwilio am waith, ac rydw i’n ddiolchgar iawn i’r tîm.”
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yng Ngheredigion, anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422. Gallwch dderbyn y newyddion diweddaraf trwy ddilyn ein sianelau cyfryngau cymdeithasol: Cymorth Gwaith Ceredigion Work Support ar Facebook a @CymorthGwaithCeredWorkSupport ar Instagram.