Llambed yn dod i’r brig yng nghystadlaeth addurno ffenest siop Dydd Gŵyl Dewi
Yn dilyn cystadleuaeth addurno ffenest siop i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn ddiweddar, braf cyhoeddi mai Hunters Hair Lounge yn Llanbedr Pont Steffan gipiodd dlws Cystadleuaeth Ffenest Siop Gŵyl Dewi Ceredigion gyda Deli Kelly, Llanbed yn ail a’r Celtic, Aberaeron yn y drydedd safle.
Dyma gystadleuaeth newydd i holl fusnesau Ceredigion wedi ei threfnu gan Cered: Menter Iaith Ceredigion, fel rhan o’i gwaith yn hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig. Fe wnaeth y gystadleuaeth arwain at ddegau o fusnesau ar draws Ceredigion yn gwneud ymdrech arbennig i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru.
O faneri, dreigiau a chennin pedr i gampweithiau artistig hynod drawiadol llawn creadigrwydd a gwreiddioldeb, gwelwyd ffenestri lliwgar ar draws y Sir. Mae modd gweld lluniau a fideos ohonynt trwy ymweld â thudalen Instagram Cered.
Dywedodd Hannah James, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered: "Roedd hi’n gystadleuaeth arbennig yn llawn lliwiau. Cafodd y ffenestri eu beirniadu am eu gwreiddioldeb a’u hadlewyrchiad o ysbryd yr ŵyl ac o ysbryd Cymreictod. Roedd hi’n anodd iawn dewis enillydd! Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran."
Yn ogystal â’r gystadleuaeth newydd ar gyfer ffenest fuddugol Ceredigion roedd modd hefyd i fusnesau gystadlu ar gyfer ffenest orau rhai o drefi Ceredigion.
Dyma fuddugwyr y trefi hynny:
· Llandysul – Siop Ffab
· Aberteifi – Cardigan Curiosities
· Tregaron – Nwyddau Caron
· Aberystwyth – Cariad @ Wallt
· Llambed – Deli Kelly
Dywedodd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am Ddiwylliant a’r Iaith Gymraeg: “Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb wnaeth sicrhau llwyddiant y gystadleuaeth hon drwy drwy addurno ffenestri eu siopau mor wych. Mae ymroddiad y busnesau hyn i greu ymdeimlad o ddathlu’r 1af o Fawrth a dangos eu balchder tuag at y Gymraeg a’u cymunedau yn ysbrydoliaeth i ni gyd.”