Helpwch i lunio dyfodol Ceredigion Oed Gyfeillgar
Gwahoddir trigolion lleol i gymryd rhan yn y gwaith o lunio blaenoriaethau Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar y sir ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Dyma gyfle unigryw i bawb ddweud eu dweud a helpu i lunio gwasanaethau a mentrau sy'n cefnogi pobl hŷn i fyw'n dda yng Ngheredigion.
Mae'r ymgysylltiad yn cael ei gynnal tan 28 Chwefror 2026 ac mae'n gyfle i bobl hŷn a chymunedau lleol rannu eu barn, gan helpu i gyd-gynhyrchu cynllun gweithredu sy'n adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau trigolion ledled Ceredigion.
Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes a Hyrwyddwr Heneiddio'n Dda: "Ym mis Hydref 2024, daeth Ceredigion yn aelod o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar. Mae'r ymgysylltiad hwn yn gam hanfodol tuag at sicrhau bod lleisiau pobl hŷn ledled y sir yn helpu i lunio ein Cynllun Gweithredu Oed Gyfeillgar. Rydym am i bawb gael y cyfle i gyfrannu a helpu i wneud Ceredigion y lle gorau y gall fod i dyfu'n hŷn."
Gallwch ddod o hyd i'r arolwg yma: Ceredigion Oed Gyfeillgar
Gellir casglu copïau caled o'ch llyfrgell, canolfan hamdden neu ganolfan les leol. Yn ogystal â hyn, bydd Arweinydd Prosiect Heneiddio'n Dda yn ymweld â grwpiau cymunedol ledled y sir i glywed yn uniongyrchol gan drigolion.
Mae’r arolwg hefyd ar gael mewn print bras neu fformatau amgen drwy gysylltu â chanolfan gyswllt Clic ar clic@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881.
24/12/2025