Gwobrwyo Clwb Gogerddan mewn seremoni wobrwyo genedlaethol
Mae Clwb Gogerddan, sy'n cael ei gynnal yn Ysgol Gynradd Rhydypennau, wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol gan Clybiau Plant Cymru 2025.
Cyflwynwyd cyfanswm o 10 gwobr ar y noson i glybiau o bob cwr o Gymru. Roedd hi'n noson arbennig o lwyddiannus i un o Glybiau y Tu Allan i'r Ysgol yng Ngheredigion, sef Clwb Gogerddan.
Eu gwobr gyntaf oedd ar gyfer Hyrwyddwr Chwarae – Clwb Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol sydd wedi hyrwyddo hawl plant i chwarae ac ymdrechu i ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel i'r plant yn eu gofal. Roedd y wobr yn cydnabod y gwerth y mae Clwb Gogerddan yn ei roi ar staff a'r defnydd o'r awyr agored.
Maent wedi defnyddio Cynllun Grantiau Cyfalaf Bach Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan yr Uned Gofal Plant yng Nghyngor Sir Ceredigion, i ddatblygu man chwarae allanol ar eu safle, ar dir Ysgol Rhydypennau. Mae hyn nid yn unig wedi bod o fudd i Glwb Gogerddan, ond mae'r Ysgol a Chylch Meithrin Rhydypennau hefyd yn gallu cael mynediad i'r gofod allanol.
Fe wnaethant hefyd ennill gwobr fawreddog Clwb Tu Allan i'r Ysgol y Flwyddyn 2025. Gwobrwywyd hwy am leoliad sy'n ymgorffori'r Egwyddorion Gwaith Chwarae ac mae'n enghraifft ardderchog o fudd chwarae a gofal plant o safon i blant, teuluoedd a chymunedau. Cafodd eu buddsoddiad mewn staff ei gydnabod eto, a'u hadroddiad arolygu disglair gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW). Roedd y nod parhaus i wella a datblygu lleoliad a phwyslais ar les staff a phlant sy'n mynychu yn golygu bod Clwb Gogerddan yn sefyll allan i'r beirniaid.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod o Gabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: "Llongyfarchiadau i Glwb Gogerddan ar ennill y ddwy wobr. Mae Clwb Gogerddan yn darparu gwasanaeth allweddol i deuluoedd sy'n gweithio drwy greu amgylchedd diogel a gofalgar i blant fynychu tra bod rhieni'n gweithio."
Dywedodd Carys Davies, Rheolwr Gofal Plant Strategol Ceredigion: "Mae hwn yn gyflawniad gwych i Glwb Gogerddan. Fel y nodwyd yn eu hadroddiad arolygu CIW diweddar, maent yn dangos eu bod yn angerddol am sicrhau gofal plant o ansawdd uchel cyson i'r plant a'u teuluoedd."
Cynhaliwyd Cynhadledd Gofal Plant y Tu Allan i'r Ysgol a Seremoni Wobrwyo Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs ar 12 Mawrth 2025. Roedd y digwyddiad yn cael ei ffrydio'n fyw ar YouTube a rhoddwyd gwybodaeth werthfawr a pherthnasol i'r sector gan nifer o siaradwyr gwadd.