Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr i Geredigion Actif

Mae Ceredigion Actif, gwasanaethau hamdden Cyngor Sir Ceredigion wedi ennill Gwobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr i gydnabod eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i ofalwyr ac aelodau staff o bob oed sy'n mynychu canolfannau lles a hamdden yn y sir.

Ceredigion Actif yw'r lleoliad hamdden a lles cyntaf i gydnabod bod gofalwyr di-dâl yn elwa o fynychu canolfannau i roi seibiant iddyn nhw, amser iddyn nhw eu hunain yn ogystal â gwella eu lles cyffredinol.

Mae’r cynllun safonau ansawdd partneriaeth ranbarthol yn cael ei ddarparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Cynlluniwyd y fenter Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn wreiddiol i helpu cyfleusterau iechyd fel practisau meddygon teulu, ardaloedd o fewn ysbytai a sefydliadau eraill i wella a chanolbwyntio ar eu hymwybyddiaeth o ofalwyr.

Aseswyd Ceredigion Actif yn erbyn y chwe thema o fewn y cynllun: Arweinydd Gofalwyr, Hyfforddiant Staff, Adnabod, Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr a Gwerthuso. 

Dywedodd Alwyn Davies, Rheolwr Gweithgarwch Corfforol Gydol Oes a Chwarae Ceredigion: "Rydym wrth ein bodd ein bod wedi ennill y wobr Efydd ac rydym yn gobeithio mynd ymlaen i weithio tuag at gwobr Arian yn y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Hamdden: “Dylai staff Ceredigion Actif fod yn falch iawn eu bod wedi ennill y wobr hon. Ceredigion Actif yw'r gwasanaeth hamdden gyntaf yn rhanbarth Hywel Dda i gael y wobr hon ac mae hynny yn dangos bod yna waith caled gan staff tîm Ceredigion Actif a'u bod yn ymdrechu i’r eithaf i gefnogi gofalwyr di-dâl ledled y sir. Llongyfarchiadau i bawb a fu'n rhan o'r gwaith yma.”

Gofalwr yw rhywun, o unrhyw oedran, sy'n darparu cymorth di-dâl i deulu neu ffrindiau na allent ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n sâl, yn fregus, yn anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu sy’n camddefnyddio sylweddau. Gall unrhyw un ddod yn ofalwr ac yn y rhan fwyaf o achosion, nid mater o ddewis yw hyn, ond rhywbeth sy’n digwydd.

Am ragor o wybodaeth am gynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr neu am ragor o wybodaeth i ofalwyr, ewch i Gwybodaeth i ofalwyr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda neu ebostiwch carersteam.hdd@wales.nhs.uk