Gweithdai i annog pobl ifanc a chymunedau i gofrestru i bleidleisio
Cynhaliwyd ‘Taith fy Mhleidlais Gyntaf’ yn ystod mis Tachwedd eleni ar y cyd rhwng Gwasanaethau Etholiadol Ceredigion a Chomisiwn y Senedd i godi ymwybyddiaeth disgyblion a chymunedau am eu hawl i bleidleisio yn Etholiadau’r Senedd yn 2026.
Rhwng 10 a 21 Tachwedd, cynhaliwyd cyfres o sesiynau ar gyfer mwy na 720 o bobl ifanc yn ardal Ceredigion yn etholaeth Ceredigion Penfro.
Roedd hyn yn cynnwys sesiynau ar gyfer ysgolion uwchradd y sir, Fforwm Anabledd Ceredigion, Aberaid, myfyrwyr ESOL, myfyrwyr yng Ngoleg Ceredigion, myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth, a llawer mwy.
Cynlluniwyd y sesiynau i helpu pobl ifanc a chymunedau anodd eu cyrraedd i ddeall y broses bleidleisio, rôl y Senedd, a phwysigrwydd cymryd rhan mewn democratiaeth. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i ddysgu sut i gofrestru i bleidleisio, archwilio rôl a gwaith y Senedd a chymryd rhan mewn etholiad ffug.
Dywedodd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholaeth Ceredigion Penfro: “Mae’n hollbwysig bod ein pobl ifanc ni yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth fynd i bleidleisio am y tro cyntaf ac ein bwriad ni gyda’r daith hon yw i sicrhau eu bod yn deall pwysigrwydd cofrestru i bleidleisio ond hefyd eu bod yn deall pa gyfrifoldebau sydd gan y Senedd a bod yr hawl i bleidleisio yn rhoi llais gwirioneddol i bobl ifanc wrth lunio dyfodol Cymru.”
Ychwanegodd Kiani Francis, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru Ceredigion a disgybl yn Ysgol Gyfun Penglais: “Roedd ein sesiwn ar ddysgu am hawliau pleidleisio i bobl ifanc yn brofiad gwych i ni feddwl yn feirniadol a thrafod pa mor arwyddocaol y gall pobl ifanc sy’n pleidleisio fod. Boed hynny drwy'r etholiad ffug rhyngweithiol, a helpodd ni i ddeall y system gynrychiolaeth gyfrannol newydd, neu'r ystadegau a oedd yn tynnu sylw at faint mae pobl ifanc wedi’u tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth gyfoes. Roeddwn i'n ddiolchgar am y cyfle i ehangu fy ngwybodaeth am sut y byddai'r system bleidleisio newydd yn gweithio mewn ffordd ymarferol.”
Dywedodd Bethan Roberts, Swyddog Addysg ac Ymgysylltu â Phobl Ifanc (Canolbarth a Gorllewin Cymru) Senedd Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cydweithio gyda'r Gwasanaethau Etholiadol yng Ngheredigion i ddarparu sesiynau am Senedd Cymru a phleidleisio i bobl ifanc y sir. Mae'r sesiynau wedi eu teilwra yn arbennig i egluro'r pwerau sydd gan Senedd Cymru a sut i fynd ati yn ymarferol i gofrestru i bleidleisio ac i fwrw pleidlais."
Bydd Etholiad Senedd Cymru yn cael ei chynnal ar 07 Mai 2026.
Rhaid cofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill 2026: Cofrestru i bleidleisio
Beth sydd angen i mi ei wybod i gofrestru i bleidleisio:
- Gallwch gofrestru i bleidleisio yng Nghymru yn 14 oed; rhaid i chi fod yn 16 oed i bleidleisio yn y Senedd (Senedd Cymru) a llawer o etholiadau lleol Cymru.
- Nid oes angen i chi gofrestru cyn pob etholiad – byddwch yn aros ar y gofrestr oni bai eich bod yn symud, yn newid enw neu'n cael eich gofyn i'w ddiweddaru.
- Gofynnir i chi am eich rhif Yswiriant Gwladol (YG), ond gallwch barhau i gofrestru heb un.
- Mae cofrestru ar-lein yn cymryd tua phum munud.
- Gall dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru hefyd gofrestru ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau lleol os ydynt yn bodloni'r gofynion preswylio ac yn 16 oed.
Mae rhagor o wybodaeth am Etholiad Senedd Cymru – Etholaeth Ceredigion Penfro ar gael yma: Etholiad Senedd Cymru
03/12/2025