Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn Ennill Marc Ansawdd Efydd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion wedi ennill Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ar Lefel Efydd, gydnabyddiaeth bwysig a ddyfarnwyd am yr ail dro gan Lywodraeth Cymru a Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae’r wobr hon yn dathlu ymrwymiad y Gwasanaeth i ddarparu gwaith ieuenctid o ansawdd uchel, cynhwysol ac effeithiol ar draws y sir.

Cynhaliwyd yr asesiad rhwng 30 Mehefin a 4 Gorffennaf 2025, gan amlygu cryfderau’r Gwasanaeth ym meysydd rheoli perfformiad, ymgysylltu â phobl ifanc, diogelu, a’i ymroddiad i’r Gymraeg a diwylliant Cymru. Canmolodd yr aseswyr aliniad strategol y Gwasanaeth â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, ei arferion cynhwysol, a’r berthynas gref sydd wedi’i meithrin gyda phobl ifanc a phartneriaid.

Dywedodd Gethin Jones, Rheolwr Corfforaethol Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion: “Rydym yn falch iawn o dderbyn Marc Ansawdd Efydd. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymroddiad, proffesiynoldeb a brwdfrydedd ein gweithwyr ieuenctid, partneriaid a phobl ifanc. Mae’n dyst i’r ddarpariaeth gynhwysol, rymusol a dwyieithog rydym yn ei chynnig ar draws Ceredigion. 

Ychwanegodd Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau a’r Cyngor Ieuenctid: “Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth wych o’r gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud gan Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion. Mae ymrwymiad y tîm i wrando ar bobl ifanc, cefnogi eu datblygiad, ac ymgorffori eu lleisiau mewn penderfyniadau yn haeddu canmoliaeth. Rydym yn falch o gefnogi eu twf a’u huchelgais parhaus.”

Dywedodd Dyfan Hunt, Aelod o’r Gwasanaeth Ieuenctid: “Fel person ifanc, rydw i wedi bod yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion ers dros 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwn, rydw i wedi cael profiadau newydd, wedi datblygu gwahanol sgiliau ac wedi cymryd rhan ym mhob math o ddarpariaeth ac rydw i nawr yn llysgennad gyda’r gwasanaeth. Mae’n bleser mawr bod gwaith y gwasanaeth yn cael ei gydnabod gan y wobr hon.”

Mae’r Marc Ansawdd yn ddilys am dair blynedd, ac yn ystod y cyfnod hwn bydd y Gwasanaeth yn parhau i arloesi a chryfhau ei ddarpariaeth. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i ddechrau ar y cam nesaf o ddatblygiad, gyda ffocws ar ennill statws Arian ac yn y pen draw Aur.

Am fwy o wybodaeth am y Marc Ansawdd, ewch i: Ynghlch y Marc Ansawdd

I ddysgu mwy am Wasanaeth Ieuenctid Ceredigion, ewch i: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion - Cyngor Sir Ceredigion

Dilynwch y Gwasanaeth Ieuenctid ar Facebook, Instagram ac X (@GICeredigionYS).