
Gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn dod i ben ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron
Mae carreg filltir arall wedi’i chyrraedd yn y gwaith adeiladu ar Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron, a fydd yn darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac erydiad arfordirol yn y dyfodol.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gyhoeddi yn ychwanegol at orffen yr elfen amddiffyn rhag llifogydd y bydd pobl unwaith eto yn gallu mwynhau Pen Cei a'r Rhodfa Morglawdd newydd yn Aberaeron o ddydd Mawrth, 07 Hydref 2025 ymlaen, a hynny yn dilyn ailagor Traeth y De ym mis Awst. Mae gwaith arwynebu yn cael ei gwblhau o amgylch Pwll Cam, ond rhagwelir y bydd yr ardal hon hefyd yn agor yn ystod yr wythnos sy'n dechrau ar 11 Hydref.
Ariannwyd y prosiect yn rhannol gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â Chyngor Sir Ceredigion a gwnaed y gwaith gan gwmni adeiladu a pheirianneg sifil BAM UK & Ireland.
Bydd y cynllun Amddiffyn Arfordirol a gwblhawyd yn lleihau'r risg o lifogydd i 168 o eiddo anfasnachol a phreswyl yn Aberaeron ac yn darparu amddiffyniad rhag y cynnydd a ragwelir yn lefel y môr yn y dyfodol. Rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion hwn yn ystod wythnos Byddwch yn Barod am Lifogydd, sydd â’r nod o godi ymwybyddiaeth pobl am y pwysigrwydd o fod yn barod am lifogydd pe bai yna risg.
Mae'r gwaith wedi cynnwys:
- adeiladu waliau cynnal craig a grwynau pren ar Draeth y De i leihau effeithiau erydiad arfordirol
- ailadeiladu strwythur dadfeiliedig y Pier Deheuol i ymestyn ei oes
- adeiladu wal llifogydd o faen a gwydr sy'n ddymunol ei olwg ac yn cynnwys sawl pwynt mynediad i gerddwyr ar hyd Pen Cei
- gosod giât llifogydd ac adeiladu man cyhoeddus uchel o fewn Pwll Cam
- adeiladu Morglawdd newydd i leihau uchder y tonnau yn yr harbwr gyda llwybr cerdded integredig sy'n cynnig profiad newydd yn lleol ac i ymwelwyr
- darparu cynllun cynaliadwy sy'n diwallu anghenion cenedlaethau'r dyfodol
Yn ogystal â darparu amddiffyniad rhag llifogydd ac erydiad arfordirol i drigolion a busnesau, mae'r cynllun wedi hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer manteision economaidd, diwylliannol a chymdeithasol y dref a'r harbwr. Mae'r Rhodfa Morglawdd newydd hefyd yn cynnig profiad hollol newydd yn lleol ac i ymwelwyr, a fydd yn debygol o ddenu ymwelwyr i'r dref.
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: "Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol o ran diogelu arfordir trawiadol Aberaeron a diogelu dyfodol y dref a'i thrigolion rhag y bygythiad cynyddol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Hoffwn ddiolch i BAM UK & Ireland am eu gwaith adeiladu crefftus a’u hymgysylltiad cymunedol gwych wrth ddatblygu'r cynllun amddiffyn arfordirol newydd. Rydym yn falch o gefnogi'r cynllun hwn ar y cyd â Llywodraeth Cymru a diolch i drigolion, busnesau ac ymwelwyr am eu hamynedd yn ystod y broses adeiladu. Rwy'n gwahodd pawb i ddod i ymweld ag Aberaeron i archwilio'r gwaith gwych drostynt eu hunain."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid yn yr Hinsawdd, Huw Irranca-Davies: "Mewn oes o batrymau tywydd cynyddol ddifrifol a lefelau'r môr yn codi, mae prosiectau fel Cynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron yn dangos ein penderfyniad i addasu a helpu ein cymunedau i fod yn fwy cadarn a chydnerth ar gyfer y dyfodol. Sefydlwyd ein Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, gwerth £291m, yn benodol i fynd i'r afael â'r heriau y mae newid yn yr hinsawdd yn eu cyflwyno i gymunedau arfordirol, ac mae'r cynllun hwn yn nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol hirdymor Aberaeron drwy ddiogelu cartrefi a busnesau lleol."
Ychwanegodd Ray Jones, Rheolwr Gweithrediadau BAM UK & Ireland: “Mae BAM UK & Ireland yn falch o fod wedi cael y cyfle i gyflawni’r ail gam hwn o Gynllun Amddiffyn Arfordirol Aberaeron, gan ddarparu amddiffyniad i’r gymuned leol am y blynyddoedd i ddod. Hoffem ddiolch i’r trigolion, y busnesau a’r ymwelwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd yn ystod y rhaglen gyflawni. Gobeithiwn y gall y gymuned nawr fwynhau’r cynllun gorffenedig cymaint ag yr ydym ni wedi mwynhau bod yn rhan o’r gymuned yn ystod y cyfnod adeiladu. Dymunwn ddyfodol diogel i chi gyd.”
Hoffai Cyngor Sir Ceredigion ddiolch i drigolion, busnesau a'r gymuned am eu cefnogaeth a'u hamynedd barhaus drwy gydol y broses adeiladu, ac rydym yn annog pawb i ymweld ag Aberaeron i weld y datblygiad.
I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch ‘Byddwch yn Barod am Lifogydd’, ac i gofrestru am rybuddion llifogydd, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru: Cyfoeth Naturiol Cymru
Dilynwch y ddolen hon i wylio fideo sy'n arddangos y gwaith ar y Cynllun Amddiffyn Arfordirol: