Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gwahodd preswylwyr i sesiwn ymgysylltu galw heibio yn ymwneud â gofal cymdeithasol a darpariaeth nyrsio

Gwahoddir preswylwyr i'r sesiwn cyntaf o gyfres o sesiynau ymgysylltu galw heibio sy'n archwilio gofal cymdeithasol a darpariaeth nyrsio yng Ngogledd y Sir.

Prif nod y sesiynau yw datblygu cynnig a fydd yn bodloni anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngheredigion heddiw ac yn y dyfodol.

Cynhelir y sesiwn galw heibio cyntaf ddydd Mawrth, 25 Mawrth 2025 yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth rhwng 2:30yp a 7:30yh.

Safle Hafan y Waun yw brif ffocws y sesiwn hon ac mae'n gyfle i drigolion adolygu syniadau cysyniadol ac i'ch llais gael ei glywed fel rhan o'n gwaith cynllunio a chwmpasu unrhyw gynlluniau yn y dyfodol.

Rydym yn awyddus i glywed eich barn am y canlynol:

  • gofal nyrsio a phreswyl
  • nyrsio dementia a gofal preswyl
  • darpariaeth seibiant
  • byw â chymorth i unigolion sy'n byw gydag anableddau dysgu a chorfforol.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Bu llawer iawn o ddiddordeb lleol yn Hafan y Waun ers i'r Cyngor gymryd drosodd. Rydym eisoes wedi gwneud llawer iawn i uwchraddio'r adeilad ac rydym bellach yn edrych ar ffyrdd y gallwn ei ddefnyddio i wella'r ddarpariaeth gofal cymdeithasol a nyrsio gyffredinol yng ngogledd y Sir. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, hoffem gael mewnbwn pobl leol i helpu i lunio datblygiad gwasanaethau'r dyfodol a sicrhau eu bod yn bodloni anghenion presennol trigolion ac ar gyfer y dyfodol."

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i staff y Cyngor ynghylch y ddarpariaeth bresennol a’r ddarpariaeth phosibl yn y dyfodol.

Mae eich barn yn bwysig i ni felly os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni drwy Ganolfan Gyswllt Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor ar 01545 570881 neu clic@ceredigion.gov.uk.