Skip to main content

Ceredigion County Council website

Grant Cynnal y Cardi yn cefnogi busnes ffyniannus i ehangu ym Mhenuwch

Yn ddiweddar, agorodd yr AS Ben Lake y gweithdy a’r gegin newydd yn Welshhomestead Smokery sydd wedi’i gefnogi gan Y Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy Gronfa Cynnal y Cardi sy’n cael ei gweinyddu a’i chefnogi gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae Welshhomestead Smokery yn dŷ mwg sydd wedi ennill sawl gwobr ar dyddyn ym Maesffynnon, Penuwch ac mae wedi tyfu’n sylweddol ers ei lansio yn 2019.

Mae Claire Jesse, sylfaenydd a pherchennog y busnes ynghyd â'i gŵr Chris wedi perffeithio hud hynafol sychu mewn mwg oer a'i gyfuno â'r dechnoleg ddiweddaraf i greu cyfuniadau blas anarferol wedi'u trwytho â blas ac arogl syml mwg coed.

Mae Welshhomestead Smokery wedi ennill 13 Gwobr Blas Gwych, 2 Wobr y Diwydiant Rheoli Cig a Gwobr ‘One World Charcuterie’ ar draws eu hamrywiaeth o gynnyrch sydd i'w gweld yn eu pantri ar-lein: Welsh Smokery 

Roedd Welshhomestead Smokery yn llwyddiannus yn eu cais am gymorth ariannol drwy gronfa fusnes Cynnal y Cardi, a ariennir yn ganolog gan Lywodraeth y DU i feithrin balchder a gwella cyfleoedd gydol oes ledled y DU. Mae'r gronfa wedi eu helpu i adnewyddu adeilad cerrig oedd eisoes yn bodoli a’i droi yn ardal baratoi a chegin o'r radd flaenaf er mwyn cryfhau eu presenoldeb yn y farchnad ledled y DU a thu hwnt.

Gosodwyd to newydd, paneli solar, llawr resin epocsi newydd, inswleiddiwyd wal eco, gorchuddiwyd y waliau mewnol â chladin plastig o safon trin bwyd, adnewyddwyd y plymio a’r trydan, a gwnaed hyn oll er mwyn cynyddu arwynebedd llawr yr ardal gynhyrchu gan 300% a chreu cyfleoedd am swyddi lleol.

Bydd ehangu safle prosesu Penuwch yn galluogi gwahanu prosesau ar gyfer bwyd amrwd a bwyd wedi’i goginio gan ganiatáu i’r ddau gael eu cynhyrchu ar yr un pryd, gan ddyblu eu gallu cynhyrchu, o bosibl. Bydd yr uned fwyd wreiddiol yn prosesu cynhyrchion amrwd yn unig a'r ardal brosesu yn yr ysgubor gerrig newydd sydd wedi'i hadnewyddu yn cael ei defnyddio ar gyfer cynhyrchion wedi'u coginio yn unig. Mae'r ystafell ganolog rhwng y ddwy ystafell brosesu yn gweithredu fel rhaniad o ran hylendid ac fel canolbwynt storio a dosbarthu cynnyrch gorffenedig. Mae'r rhaniad hwn yn caniatáu i'r ddwy ardal gynhyrchu gyd-redeg ac felly yn galluogi trydedd ardal brosesu i ddigwydd ar yr un pryd ar gyfer labelu cynhyrchion gorffenedig a phacio cynnyrch yn barod i'w dosbarthu.

Dywedodd Claire Jesse, perchennog Welshhomestead Smokery: "Mae'r tŷ mwg mewn cyfnod o ehangu. Gan weithio ochr yn ochr â Bwyd a Diod Cymru, Cywain a Chanolfan Bwyd Cymru ac adeiladu ar ein dosbarthiad yng Nghymru drwy weithio gyda chyfanwerthwyr mwy o faint, rydym bellach yn darparu dosbarthiad llawn i'r sector manwerthu bwyd arbenigol ledled y DU ers mis Ionawr 2024."

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: "Mae'n wych gweld cwmni lleol fel Welshhomestead Smokery yn ffynnu yn ein hardaloedd gwledig. Mae'r cwmni'n gweithio'n agos o fewn eu cymuned, gan gyflogi staff dwyieithog lleol, a gweithio gyda chyflenwyr lleol sy'n cael effaith fawr ar gyfansymiau eu refeniw a'u gallu i wario yng Ngheredigion ac ardaloedd eraill yng Nghymru. Mae'n wych eu bod wedi llwyddo i fanteisio ar gyfleoedd ariannu drwy  Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a Chynnal y Cardi, ac rydym yn dymuno pob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol."

O ran dosbarthu, mae Welshhomestead Smokery ar hyn o bryd yn gwerthu eu cynnyrch mewn siopau lleol a delicatassens yn ogystal â bwytai, caffis a busnesau twristiaeth lleol. Cotswold Fayre yw eu cyfanwerthwr mwyaf sy'n dosbarthu i gwsmeriaid ledled y DU; Lloegr, Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae’r perchnogion yn edrych ymlaen at ddyfodol disglair a llwyddiannus ac yn gobeithio dosbarthu eu cynnyrch, am y tro cyntaf, i fanwerthwr nwyddau tŷ enwog, yn y dyfodol agos. Cadwch lygad yma am y diweddaraf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phrosiectau Cynnal y Cardi ewch i: Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas - Cyngor Sir Ceredigion neu cysylltwch â’r tîm drwy e-bost at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk