Skip to main content

Ceredigion County Council website

Gofyn barn ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Tal-y-bont

Gofynnir am farn preswylwyr ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Tal-y-bont.

Ym mis Hydref 2020, cynhyrchwyd y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol (RhPLlAG) yng Nghymru ac mae'n nodi'r fframwaith, nodau ac amcanion ar gyfer gwaith rheoli llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru. Yn seiliedig ar y nodau a'r amcanion a nodir yn yr RhPLlAG, mae cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer ardal Tal-y-bont i leihau'r perygl o lifogydd i'r gymuned.

Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu ar gyfer ardal Talybont mewn ymateb i ddigwyddiad llifogydd afonol rhwng 8 Mehefin a 9 Mehefin 2012, pan gafwyd gwerth mis o law o fewn 24 awr. Cofnodwyd llifogydd o hyd at 1.5m a ddifrodwyd i oddeutu 27 cartref. Aseswyd y digwyddiad hwn fel un difrifol gyda thebygolrwydd iddo ail-adrodd ar sail 1 digwyddiad mewn 200 mlynedd (digwyddiad TGB 0.5%). Mae Tebygolrwydd Gormodedd Blynyddol (TGB) yn cyfeirio at y tebygolrwydd y bydd digwyddiad o lifogydd yn digwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Mae cofrestr cymunedau mewn Perygl (CCmP) Cyfoeth Naturiol Cymru yn gosod cymunedau ledled Cymru mewn trefn, yn seiliedig ar eu perygl llifogydd, sydd wedi'i bennu gan raddfa genedlaethol a model rhagfynegi lefel uchel a ddefnyddiwyd i ddeall perygl llifogydd Tal-y-bont.

Mae'r perygl o lifogydd yn cael ei fesur gan debygolrwydd llifogydd mewn 2 a 100 mlynedd. Mae digwyddiad llifogydd 2 flynedd yn cynrychioli senario llifogydd cymharol aml gyda dwysedd isel o'i gymharu â digwyddiadau sydd â chyfnodau o ailadrodd hirach, megis llifogydd 100 mlynedd. Mewn digwyddiad llifogydd 2 flynedd, mae'n cyfeirio at lifogydd sydd â thebygolrwydd digwydd o 50% mewn unrhyw flwyddyn benodol ac sy'n seiliedig ar ddata hanesyddol ac nid yw hyn yn golygu bod y llifogydd yn digwydd unwaith bob 2 flynedd. Defnyddir y math hwn o ddigwyddiad yn aml wrth gynllunio i asesu risgiau i eiddo a seilwaith mewn ardaloedd sy'n dueddol o ddioddef oherwydd llifogydd.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon: “Yn ôl y data, mae 15 cartref ac un eiddo o fath arall mewn perygl yn ystod digwyddiad llifogydd 2 flynedd sy’n cynnyddu i 34 cartref a thri eiddo o fath arall yn ystod digwyddiad 100 mlynedd, a pan ystyrir newid yn yr hinsawdd, gall hyn gynyddu i 36 cartref a thri eiddo o fath arall. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn".

Bydd pob awgrym rhesymol a dderbynnir drwy'r broses ymgynghori yn cael eu hystyried i'w hymgorffori yn y Cynllun Lliniaru Llifogydd (CLlLl) ar ôl iddo ddod i ben.

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau Dydd Sul 16 Chwefror 2025. Cynhelir digwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd ar 11 Chwefror 2025 am 15:00 i 19:00 yn Neuadd Talybont. Bydd deunyddiau ymgynghori yn cael eu harddangos, a bydd staff ar gael i fynd i'r afael â chwestiynau preswylwyr.

Gall preswylwyr ddarganfod mwy o wybodaeth a rhannu eu barn ar-lein: Cynllun Lliniaru Llifogydd Talybont | Cyngor Sir Ceredigion

Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol. Hefyd, mae modd gwneud cais am gopi papur drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i: Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE