Gofyn am farn a gwybodaeth gan drigolion am ardaloedd cadwraeth
Mae ardaloedd Cadwraeth yn ardaloedd penodol o rinweddau pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Mae'n ofynnol i Gyngor Sir Ceredigion, o bryd i'w gilydd, adolygu’r ardaloedd cadwraeth yn y Sir a llunio argymhellion ar gyfer eu cynnal a'u gwella.
Mae'r Cyngor yn paratoi neu'n diweddaru ein Arfarniadau Ardal Gadwraeth er mwyn nodi beth sy'n gwneud yr ardaloedd hyn yn arbennig ac unrhyw gyfleoedd neu broblemau a allai fodoli. Mae'r Arfarniadau yn sail ar gyfer Cynlluniau Rheoli manylach. Mae'r Cynlluniau Rheoli yn nodi ymatebion priodol i fynd i'r afael ag unrhyw gyfleoedd a phroblemau.
Paratowyd Arfarniadau a Chynlluniau Rheoli Ardaloedd Cadwraeth Drafft ar gyfer yr ardaloedd canlynol:
- Aberaeron
- Aberystwyth
- Aberteifi
- Llanbedr Pont Steffan
- Llanbadarn Fawr
- Llandysul
- Cei Newydd
- Tregaron
Mae'r Cyngor am geisio mabwysiadu'r Arfarniadau Ardal Gadwraeth a'r Cynlluniau Rheoli hyn fel Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA). Mae hyn yn golygu y byddant yn cael eu hystyried fel ystyriaeth berthnasol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy'n effeithio ar yr Ardaloedd Cadwraeth.
Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys sut i gael mynediad i’r dogfennau ac ymateb i'r ymgynghoriad, i'w gweld ar y Dudalen Ymgynghori ar wefan y Cyngor.
Mae'r cyfnod ymgynghori nawr ar agor a gallwch rannu eich barn hyd at ddydd Sul 9 Mawrth 2025. Bydd yr holl sylwadau'n cael eu cydnabod a byddant yn cael eu cyhoeddi.
Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion dros yr Economi ac Adfywio: “Mae Arfarniadau Ardaloedd Cadwraeth yn ein helpu i ddiogelu'r safleoedd hanesyddol yn ein sir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwy’n annog y cyhoedd i rannu eu barn fel y gellir sicrhau bod treftadaeth arbennig Ceredigion yn cael ei rheoli am genedlaethau i ddod.”
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y dogfennau, cysylltwch â'r Tîm Polisi Cynllunio drwy anfon e-bost at ldp@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am Polisi Cynllunio.