Skip to main content

Ceredigion County Council website

Galwad am ofalwyr maeth brys yng Ngheredigion

Mae Ceredigion yn chwilio unigolion ystyrlon ac ymroddedig i fod yn ofalwyr maeth brys. Mae'r rôl hanfodol hon yn chwilio am bobl garedig gall gynnig amgylchedd diogel a meithringar i blant sydd mewn angen, waeth beth fo'u hoedran, hil, statws priodasol neu rywioldeb.

Mae angen i ofalwyr maeth brys allu ymateb a gweithredu'n gyflym mewn sefyllfaoedd brys. Dylent fod yn amyneddgar ac yn gallu mynd i'r afael ag anghenion ymddygiadol ac emosiynol plant, ac yn gallu cynnig lle yn eu cartref i blentyn sydd mewn angen.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus i recriwtio mwy o ofalwyr maeth lleol fel y gall plant a phobl ifanc aros yn eu cymunedau lleol a chadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu. Yn ogystal â lleoliadau tymor hir, hoffai’r Cyngor glywed gan unigolion a theuluoedd sy’n gallu cynnig cyfleoedd i gefnogi gyda lleoliadau brys tymor byr. 

I gefnogi'r gofalwyr hyn, mae’r Cyngor yn cynnig pecyn cynhwysfawr, gan gynnwys lwfans o £50 y plentyn y noson i dalu am anghenion sylfaenol. Bydd gan ofalwyr fynediad at linell gymorth 24 awr gyda gweithwyr cymdeithasol ymroddedig, gwasanaethau cwnsela i helpu i reoli agweddau emosiynol maethu, a chyfleoedd hyfforddi rhanbarthol parhaus i sicrhau eu bod wedi'u paratoi'n dda. Yn ogystal, bydd deunyddiau hanfodol fel cotiau, seddi ceir a chadeiriau gwthio yn cael eu darparu.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Llesiant Gydol Oes: “Rydym yn galw ar bobl arbennig Ceredigion sy’n gallu agor eu calonnau a’u cartrefi i blant sydd angen gofal brys. Mae gofalwyr maeth brys yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu sefydlogrwydd a diogelwch i blant yn ystod cyfnodau heriol iawn yn eu bywydau. Gyda'r pecyn cymorth cynhwysfawr a gynigir gan y Cyngor, rydym yn gobeithio sicrhau hygyrchedd y rôl bwysig hon i lawer o drigolion. Gall eich caredigrwydd wneud byd o wahaniaeth i fywyd plentyn.”

Weithiau, mae angen symud plant i amgylchedd sy’n saff a diogel ar fyr rybudd. Bydd y gofalwyr maeth brys yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn, gan gynnig hafan ddiogel dros dro i’r plant mewn adegau o argyfwng.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ofalwr maeth brys, cysylltwch â Thîm Maethu Ceredigion drwy ffonio 01545 570881 neu e-bostio clic@ceredigion.gov.uk.