Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ethol aelodau newydd i arwain Cyngor Ieuenctid Ceredigion a chynrychioli Senedd Ieuenctid Cymru

Ar 18 Hydref 2024, etholodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion Gadeirydd newydd ac Aelod newydd i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2024-25. Yn dilyn hynny, ar y 10 Rhagfyr 2024, bu pobl ifanc ar draws y Sir yn pleidleisio am eu Aelod Seneddol Ieuenctid newydd dros Geredigion yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Penodwyd Bronwen Tuson, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Penglais, yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a bydd yn arwain y Cyngor Ieuenctid yn 2024-25. Etholwyd Lleucu Nest, disgybl Ysgol Gyfun Penweddig yn Aelod Seneddol Ieuenctid y DU dros Geredigion a bydd yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn 2024-25. Kiani Francis, disgybl Ysgol Penglais ac aelod o Gyngor ieuenctid Ceredigion, cafodd ei hethol yn Aelod Seneddol Ieuenctid Cymru dros Geredigion a bydd yn cynrychioli’r Sir yn Senedd Ieuenctid Cymru am y flwyddyn 2024-26.

Mae Bronwen yn cymryd yr awenau oddi wrth cyn-Gadeirydd y Cyngor Ieuenctid, sef Rosa Waby o Ysgol Gyfun Penweddig, wrth iddi orffen ei thymor, gydag Aeron Dafydd, Ysgol Bro Teifi yn agosáu at ddod i ddiwedd eu cyfnod fel Aelod Seneddol Ieuenctid am 2023-24. Yn gorffen ei dymor fel Aelod Seneddol Ieuenctid yn Senedd Cymru ydy Lloyd Warburton, gyda Kiani Francis yn cymryd yr awenau yn 2025.

Mae Bronwen, Lleucu a Kiani eisoes wedi dechrau eu gwaith yn eu rolau newydd, a byddant yn ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn lleol ac yn genedlaethol yn ystod y flwyddyn. Yn ddiweddar, fe wnaethant fynychu sesiwn holi ag ateb gydag Elin Jones AS, Llywydd Senedd Cymru yng Nghaerdydd ac yn fuan byddant yn cyfarfod â Ben Lake AS; y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; ac Elen James, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion i drafod materion a blaenoriaethau cyfredol am y flwyddyn i ddod. 

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Hoffwn longyfarch Bronwen, Lleucu a Kiani ar eu penodiadau diweddar fel rhan o raglen Cyngor Ieuenctid Ceredigion, ac ymgyrch Senedd Ieuenctid Cymru. Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaenau eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw. Maent eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i brosesau democrataidd o safbwynt pobl ifanc yng Ngheredigion. Dymunwn lwc dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffwn hefyd ymestyn ein diolch i Rosa ac Aeron sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymgyrchu a hyrwyddo lleisiau pobl ifanc Ceredigion yn ystod y cyfnod yn eu swyddi llynedd. Maent wedi cael effaith hirdymor a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol, a diolch iddynt am eu holl waith caled.”

Dywedodd Bronwen Tuson, Cadeirydd newydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Rwy’n ddiolchgar iawn am y cyfle i gynrychioli lleisiau pobl ifanc Ceredigion yn 2024-25 fel Cadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Rydw i'n edrych ymlaen at geisio datrys problemau sy’n gwynebu pobl ifanc, ac rydw i'n awyddus i gyd-weithio gyda fy nghyd-aelodau o fewn y Cyngor Ieuenctid er mwyn gwella ein hardal leol, nid yn unig i'r ieuenctid ond i bawb. Rydw i'n edrych ymlaen yn arbennig i bleidlais 'Rhoi dy Farn' ac i ddigwyddiad 'Pawb a'i Farn' er mwyn gweithio tuag at dyfodol disglair i Geredigion a sicrhau bod pobl ifanc ynghlwm mewn penderfyniadau.” 

Ychwanegodd Aeron Dafydd, cyn ASI Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU: “Mae wedi bod yn fraint cynrychioli pobl ifanc Ceredigion fel eu ASI yn 2023-24. Mae fy rôl i, ynghyd â Rosa, wedi ymwneud yn bennaf â hyrwyddo materion sy'n bwysig i bobl ifanc ar lefel lleol a chenedlaethol, gyda llunwyr polisi allweddol a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfyniadau pwysig. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am waith Aelodau Seneddol a Llywodraeth y DU.”

Dywedodd Kiani Francis, Aelod Seneddol Ieuenctid newydd Ceredigion yn Senedd Cymru: “Rwy’n falch iawn o chael fy newis i gynrychioli Ceredigion fel Aelod Seneddol Ieuenctid Senedd Cymru dros Geredigion yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen at weithio ac ymgyrchu dros yr hyn sy’n bwysig i’n pobl ifanc a sicrhau bod ein lleisiau yn cael eu cynnwys yng ngwaith Senedd Ieuenctid Cymru. Mae amser cyffrous o’n blaenau a chyfle i ddylanwadu’n bositif ar fywydau pobl ifanc a’n cymunedau’n lleol.” 

Wrth groesawu’r aelodau newydd, dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i'r aelodau newydd a etholwyd. Hoffwn ddymuno'n dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod ac edrychaf ymlaen at gydweithio a chlywed eu lleisiau am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc y Sir.”