Erlyn dyn o Geredigion yr eildro am fethu ag atal sŵn ceiliog
Mae dyn o Fetws Ifan wedi cael ei erlyn a'i ddirwyo am yr eildro am fethu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad lleihau sŵn a gyflwynwyd iddo yn ymwneud â sŵn ceiliogod yn ystod y nos a oedd yn cadw ei gymdogion ar ddeffro.
Plediodd Christoper Wise, o Llainweddfa, Betws Ifan, Castellnewydd Emlyn, SA38 9QL yn euog i barhau i dorri'r rhybudd, a gyflwynwyd o dan adran 80 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 gan wasanaeth Diogelu’r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion yn 2020.
Rhoddodd swyddogion Ceredigion ganllawiau i Mr Wise ond dewisiodd eu hanwybyddu. Roedd y cyfarwyddiadau yn cynnwys symud yr adar i ffwrdd o'r ffin ag eiddo cyfagos gan gynnwys sicrhau bod yr adar yn cael eu cadw o fewn adeiladau allanol addas a fyddai'n atal sŵn. Cafodd Mr Wise gyngor hefyd i leihau nifer y ceiliogod ar y safle fel ffordd o atal sŵn.
Er gwaethaf cael ei erlyn am yr un drosedd ym mis Mai 2024, cadarnhaodd canfyddiadau o ymweliadau a gynhaliwyd gan swyddogion o fewn gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd fod sŵn ceiliogod yn dal i fod yn glywadwy o fewn ystafelloedd gwely eiddo cyfagos yn ystod oriau mân y nos ar lefelau sy'n ddigonol i achosi aflonyddwch cwsg. Felly, roedd gofynion yr Hysbysiad Diddymu yn dal i gael eu torri.
Plediodd Mr Wise yn euog drwy dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned (CPN). Cyflwynwyd y CPN mewn perthynas â'i fethiant i drwsio ffens ffin ei dir a oedd yn galluogi rhai o'i oddeutu 40 o eifr i grwydro o bryd i'w gilydd ar dir ei gymdogion, gan arwain at ddyddodion ysgarthol a difrod i blanhigion gardd. Roedden nhw hefyd yn crwydro o bryd i'w gilydd ar y ffordd gyhoeddus gan achosi perygl i draffig.
Mae'n rhaid i Mr Wise nawr dalu cyfanswm o £2,140, sy'n cynnwys dirwy o £1,200 a £150 am dorri'r hysbysiad Diddymu a Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, £250 am gostau cyfreithiol a ysgwyddir gan yr Awdurdod Lleol a thâl llys o £540.
Mae Gorchymyn Ymddygiad Troseddol (CBO) hefyd wedi cael ei gyflwyno iddo gan y llys ar gais yr awdurdod lleol. Mae'r CBO yn ei gwneud yn ofynnol iddo gwblhau gwaith perthnasol i fynd i'r afael â'r sŵn niwsans parhaus o fewn 12 wythnos. Byddai methu â chydymffurfio â hyn yn drosedd.
Ar ôl dedfrydu Mr Wise, cafodd ei rybuddio bod yn rhaid iddo gymryd y CBO o ddifrif a sicrhau ei fod yn cydymffurfio o fewn y terfyn amser penodol gan fod torri CBO yn gallu golygu dedfryd o garchar. Amlinellwyd iddo hefyd fod gwaharddiad ar ei hawl i gadw da byw wedi cael ei ystyried fel amod CBO, ond bod y llys am roi cyfle olaf iddo ddelio â'r mater.
Dywedodd Matthew Vaux, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiogelu’r Cyhoedd: “Mae'r achos hwn yn amlygu bod yn rhaid i bob person sy'n cadw anifeiliaid ystyried yn ofalus yr effaith ar eu cymdogion agos. Roedd y colli cwsg rheolaidd a achoswyd gan y mater hwn wedi achosi niwed sylweddol i'r rhai yr effeithiwyd arnynt. Roedd y geifr hefyd yn achosi difrod a pherygl i draffig. Rhoddodd Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd gyngor ac arweiniad sylweddol. Fodd bynnag, penderfynodd Mr Wise anwybyddu’r rhybudd gan olygu bod angen dod â'r achos hwn i'r Llys Ynadon a oedd yn cydnabod difrifoldeb y mater.”