
Dwy nofel gadwyn wedi’u hysgrifennu gan bobl ifanc Ceredigion
Mae dwy nofel newydd wedi cael eu cyhoeddi yn dilyn gwaith ar y cyd gan ddisgyblion ysgolion cynradd Ceredigion.
Mae Antur Fawr Tomi Bach, gan ddisgyblion blwyddyn 5 a 6, a Tro ar Fyd gan ddisgyblion blwyddyn 3 a 4, wedi cael eu hysgrifennu ar y cyd, fel nofelau cadwyn. Dechreuodd y gwaith yn dilyn dau sgwad sgwennu gychwynnol ar ddechrau mis Mai o dan arweiniad yr awdur lleol Gwennan Evans. Yn ystod y sesiynau hyn, aeth y disgyblion ati i greu cymeriadau a llunio plot, cyn i’r ddau griw fwrw ati i ysgrifennu pennod gyntaf eu nofelau ar y cyd.
Yn dilyn hynny, cynhaliwyd sesiynau ysgrifennu dilynol ym mhob ysgol, o dan arweiniad aelodau o Dîm Cefnogi’r Gymraeg Ceredigion, er mwyn i bob grŵp gynllunio ac ysgrifennu eu pennod nhw o’r nofel gadwyn a’i throsglwyddo i’r ysgol nesaf.
Bellach, mae’r gwaith awduro, golygu a dylunio wedi ei gwblhau, a’r ddwy nofel wedi eu lansio’n swyddogol. Cynhaliwyd y lansiad yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Mercher 09 Gorffennaf 2025.
Yn ystod y digwyddiad, cyflwynodd disgyblion Blwyddyn 3 a 4 Ysgol Henry Richard a disgyblon Blwyddyn 5 a 6 Ysgol Gymraeg Aberystwyth, enillwyr rownd sirol Ceredigion o Ornest Lyfrau Cyngor Llyfrau Cymru, gopïau o’r ddwy nofel i Rhodri Morgan, Pennaeth Adran Addysg y Llyfrgell Genedlaethol; Bethan Mai Jones a Francesca Sciarrillo o Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen Cyngor Llyfrau Cymru; Emyr Lloyd o Lyfrgell Ceredigion a'r Cynghorydd Wyn Thomas ar ran Cyngor Sir Ceredigion.
Ymunodd gweddill aelodau’r sgwadiau sgwennu - o ysgolion Talgarreg, Llanilar, Penllwyn, Aberaeron a Phontrhydfendigaid - â’r lansiad yn rhithiol, er mwyn gweld copïau o’u nofelau am y tro cyntaf a gwrando ar Gwennan Evans yn darllen pytiau o’r ddwy.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: “Llongyfarchiadau mawr i’r awduron ifanc ar eu gwaith gwych. Mae cyhoeddi nofel yn dipyn o gamp, ac roedd cael cipolwg ar y byd cyhoeddi trwy gydweithio ag awdur profiadol yn brofiad gwerth chweil. Diolch i Dîm Cefnogi’r Gymraeg yng Ngheredigion am y weledigaeth. Mae’r prosiect hwn yn benllanw bendigedig ac yn arwydd o ddiolch i’r disgyblion am eu gwaith gwych wrth gystadlu yn rownd sirol yr Ornest Lyfrau, lle roedd eu brwdfrydedd wrth drafod straeon, cymeriadau a themâu a’u mwynhad o ddarllen llyfrau Cymraeg yn amlwg i’w weld.”
Bydd copiau ar gael ymhob Llyfrgell yn y Sir, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac ymhob ysgol gynradd yng Ngheredigion.