Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dweud eich dweud ar y Polisi Trwyddedu nesaf

Mae Polisi Trwyddedu Cyngor Sir Ceredigion yn cwmpasu llefydd fel tafarndai a bariau, a'r rhan fwyaf o leoliadau sy'n gwerthu alcohol, yn gweini bwyd poeth yn hwyr yn y nos, neu'n cynnal adloniant fel cerddoriaeth fyw, dawnsio, ffilmiau, neu rai digwyddiadau chwaraeon.

Mae ymgynghoriad wedi agor yn gofyn am eich adborth wrth i'r Polisi Trwyddedu ar gyfer y pum mlynedd nesaf gael ei adolygu i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyfreithiol ddilys ac yn adlewyrchu canllawiau cenedlaethol cyfredol, blaenoriaethau lleol, ac anghenion cymunedol sy'n newid.

Mae'r adolygiad hefyd yn hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd trwy gynnwys ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol fel yr heddlu, y gwasanaethau tân, cyrff iechyd cyhoeddus, busnesau a thrigolion.

Mae'r prif newidiadau a argymhellir yn cynnwys cyfeiriadau at ddiogelwch personol a bregusrwydd; gofynion ailgylchu gweithle newydd; cyfraith Martyn’s Law; gwerthiannau trwy ddirprwy; a chyflogi plant. Mae yna hefyd ychwanegiadau mewn perthynas â digwyddiadau ar raddfa fawr; goruchwylwyr dynodedig lleoedd; gerddi cwrw; a chronfa o amodau model.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Cabinet dros Bartneriaethau, Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu a Diogelu'r Cyhoedd: "Hoffwn annog pob perchennog busnes a threfnwyr digwyddiadau i edrych ar y Datganiad Polisi Trwyddedu newydd a chwblhau'r arolwg. Mae'r Polisi Trwyddedu yn effeithio ar bob agwedd ar redeg busnesau a digwyddiadau o ddydd i ddydd, a dyma'ch cyfle chi i lunio ei ddyfodol."

Sut i gymryd rhan?

Cwblhewch yr arolwg ar-lein: Datganiad o Bolisi Trwyddedu 2026-2031 - Cyngor Sir Ceredigion. Neu lawrlwythwch gopi papur: Arolwg Datganiad o Bolisi Trwyddedu, fersiwn 'Word'.

  • Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom yn clic@ceredigion.gov.uk.
  • Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch gopïau papur i'ch llyfrgell leol neu i'r Tîm Trwyddedu, Cyngor Sir Ceredigion, Neuadd y Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.