Skip to main content

Ceredigion County Council website

Disgyblion Ceredigion yn rhyddhau EP newydd

Hoffech chi wrando ar gerddoriaeth newydd am Geredigion, gan blant y sir? Bydd EP newydd sbon yn cael ei rhyddhau ddydd Gwener, 28 Mawrth 2025, yn cynnwys chwe chân newydd o Geredigion.

Daw hyn yn dilyn llwyddiant prosiect diweddar y Siarter Iaith gan Llywodraeth Cymru yng Ngheredigion, lle bu beirdd a cherddorion yn cydweithio â disgyblion ysgolion cynradd Ceredigion i gyfleu eu hardaloedd mewn cân. Bydd y caneuon hynny ar gael i wrando arnynt a’u lawrlwytho o blatfformau digidol gan gynnwys PYST a Spotify. Beth am wrando nawr?  Cynefin ar Gân

Dyma’r traciau ar yr EP:

  • Golau Ein Cynefin gan ddisgyblion cynradd cylch Aeron. Geiriau: Dwynwen Llywelyn. Alaw: Mei Gwynedd
  • Trwy Lygaid Barcud gan ddisgyblion cynradd gogledd cylch Aberystwyth. Geiriau: Arwel Rocet Jones. Alaw: Mei Gwynedd
  • Dewch Am Dro i'r Dref gan ddisgyblion cynradd de cylch Aberystwyth. Geiriau: Arwel Rocet Jones. Alaw: Mei Gwynedd.
  • Ein Patshyn Ni gan ddisgyblion cynradd cylch Llanbed a Thregaron. Geiriau: Enfys Hatcher Davies. Alaw: Mei Gwynedd.
  • Teithio'r Teifi gan ddisgyblion cynradd cylch Llandysul ac Aberteifi. Geiriau: Ceri Wyn Jones. Alaw: Mei Gwynedd.
  • Dreigiau Coch gan ddisgyblion ysgolion trosiannol (T2) Ceredigion. Geiriau ac alaw: Mr Phormula.

Dywedodd Anwen Eleri Bowen, Swyddog Hyrwyddo’r Gymraeg mewn Ysgolion ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae wedi bod yn bleser llwyr i gydweithio â'r disgyblion, y beirdd a’r cerddorion ar y prosiect cyffrous hwn. Mae heddiw yn destun balchder a llawenydd gan ein bod drwy gyfrwng cerddoriaeth yn medru rhannu cariad ein disgyblion tuag at y fro a'r iaith. Mae wedi bod yn brofiad arbennig i'r disgyblion i gael dweud eu bod wedi bod yn rhan o greu'r caneuon, y recordio a rhyddhau EP sydd ar gael yn fyd-eang!”

Ychwanegodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Ysgolion a Diwylliant: “Dyma brosiect cyffrous a chyfoes i’n disgyblion cynradd. O gydweithio â beirdd a cherddorion profiadol i glywed eu gwaith gorffenedig yn gyhoeddus, mae wedi bod yn brofiad amhrisiadwy iddynt, a bydd y prosiect hwn yn cynnal y traddodiad barddol yng Ngheredigion am flynyddoedd i ddod. Diolch i bob un fu ynghlwm â’r prosiect, ac ewch ati i wrando ar Gynefin ar Gân.”

Yng ngeiriau cân ‘Teithio’r Teifi’: “Mae’r tir a’r môr o’n cwmpas / mae’r perci dan ein tra’d; / mae’r iaith, fel afon Teifi, / yn llifo yn ein gwa’d.”

Rhaglen genedlaethol gan Llywodraeth Cymru yw'r Siarter Iaith i hyrwyddo'r Gymraeg. Mae'r Siarter Iaith ar waith ym mhob un o ysgolion Ceredigion. Bwriad y rhaglen yw ysbrydoli plant a phobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd.