Dewch am dro ar hyd llwybrau Teithio Llesol gogledd Ceredigion
Mae fideo 3D newydd o’r awyr wedi cael ei gynhyrchu gan Gyngor Sir Ceredigion i ddangos sut fydd y cynigion ar gyfer cynllun Teithio Llesol Waunfawr i IBERS yn cysylltu cymunedau Penrhyn-coch a Bow Street drwy Gomins Coch.
Bydd y cynllun yn darparu dolen gyswllt ‘Campws i Gampws’ ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a hynny rhwng campws Penglais a champws newydd Arloesi a Menter Aberystwyth (AIEC) ym Mhlas Gogerddan.
Mae’r fideo hefyd yn dangos cynigion eraill sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer Llwybrau’r Dyfodol, gyda’r nod o gysylltu â’r Llwybrau Presennol rhwng canol tref Aberystwyth a’r cymunedau cyfagos. Mae’n rhoi trosolwg o’r rhwydwaith ehangach ar gyfer cerdded a beicio, a’n gweledigaeth ni o gysylltu pobl gyda gwasanaethau a lleoliadau addysg a gwaith yn Aberystwyth.
Mae’r fideo hwn wedi’i ariannu gan Grant Craidd Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru gyda chymorth gan Drafnidiaeth Cymru. Cymerwch olwg yma: Cynigion llwybrau Teithio Llesol ardal Aberystwyth
Dywedodd y Cynghorydd Shelley Childs, Aelod Cabinet Ceredigion dros Briffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae’r fideo newydd hwn yn cynnig trosolwg gwych o’r modd y gall cynigion ar gyfer llwybrau newydd ryng-gysylltu â’r rhwydwaith teithio llesol sy’n bodoli eisoes yn ardal Aberystwyth. Mae’r rhain yn helpu i gysylltu cymunedau gyda’r amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael yn nhref Aberystwyth, gan roi mwy o ddewisiadau i bobol wneud siwrneiau cerdded a beicio mwy diogel. Mae gan y siwrneiau teithio llesol hyn fanteision helaeth gan gynnwys iechyd a lles personol, gwell mynediad i fannau gwyrdd, lleihau allyriadau carbon a thagfeydd ar y ffyrdd, a helpu i fodloni’r targedau o ran aer glanach yn lleol."
I gael rhagor o wybodaeth am Deithio Llesol yng Ngheredigion, ewch i dudalen We Teithio Llesol y Cyngor: Teithio Llesol