Skip to main content

Ceredigion County Council website

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi trwy gymryd rhan mewn Cystadleuaeth Ffenestri Siop Cered

Er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi lansio cystadleuaeth ffenestri siop newydd ar gyfer holl fusnesau Ceredigion.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cered wedi bod yn rhedeg cystadlaethau ffenestri siop er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn rhai o drefi Ceredigion. Eleni am y tro cyntaf fe fydd busnesau unrhyw le yn y sir yn gallu cystadlu p’un ai os ydyn nhw mewn tref, bentref neu yn y wlad.

Yn y trefi lle’r oedd cystadleuaeth ffenest siop Gŵyl Dewi yn bodoli eisoes sef Aberystwyth, Aberteifi, Llanbed, Llandysul a Thregaron fe fydd modd i fusnesau barhau i ennill tarian ar gyfer y ffenest siop orau yn y dref yn ogystal â cheisio ennill y gorau yn y sir.

Prif nod y gystadleuaeth yw creu môr o liw, creadigrwydd a Chymreictod gweledol yng Ngheredigion lle mae’r iaith Gymraeg yn amlwg. O ganlyniad, mae Cered yn gobeithio bydd y gystadleuaeth yn creu ychydig o fwrlwm o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi i fusnesau ar draws Ceredigion. 

Mae’r gystadleuaeth hefyd yn ffordd i Cered allu ymgysylltu gyda busnesau hen a newydd er mwyn adnabod y rhai sydd am fod rhan o’u hymgyrch ‘Hapus i Siarad’. Mae’r ymgyrch yma’n adnabod y busnesau sy’n hapus i gynnal sgwrs yn y Gymraeg.

Dywedodd Hannah James, trefnydd y gystadleuaeth ar ran Cered: “Bydd hi’n grêt gweld busnesau o gwmpas Ceredigion yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth i arddangos Cymreictod ac ysbryd yr ŵyl”.

Dywedodd Cynghorydd Catrin M.S. Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Idiom a briodolir i Dewi Sant yw ‘gwnewch y pethau bychain’. Dyma yn union sydd wrth wraidd y syniad yma sef bod busnesau ledled Ceredigion yn gwneud un peth, sef addurno eu ffenestri ar gyfer Dydd Gwyl Dewi. Dyma gyfle i gyd-greu awyrgylch lliwgar a deniadol ar ein strydoedd drwy nodi’r dathliad ac addurno’n lliwgar. Mae canlyniad un weithred fach gan llawer o bobl a busnesau yn tyfu yn beth mawr a dyna yw’r gobaith ar gyfer y 1af o Fawrth eleni sef bod y strydoedd yn gyforiog o liw ac addurniadau i ddathlu ein Nawdd Sant. Dewch i ni ddathlu ein Cymreictod mewn steil!”.

Os ydych chi eisiau cystadlu, bydd angen rhannu llun neu fideo o’ch ffenest siop, ei bostio fel stori ar Instagram a thagio @menteriaithceredigion. 

Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw Dydd Gwener, Chwefror 28, 2025. 

Bydd Cered yn beirniadu’r ffenestri ac yn rhoi gwybod o’r enillydd ym Mharêd Gŵyl Dewi Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan.

Dilynwch Cered ar ei gyfryngau cymdeithasol ar Facebook, X, ac Instagram.