Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Dathlu’r ‘dolig yn Theatr Felinfach!

Mae Nadolig ar y gorwel ac mae Theatr Felinfach yn edrych ymlaen at eich croesawu i ddathlu’r Ŵyl.

 

#
#

Bydd y Pantomeim Nadolig, Hei Hei, Ho Ho, Cnoc Cnoc (A’r Tebot Hud), ar 8, 10-13 Rhagfyr 2025.

Eleni, mae camerâu Hollywood yn disgwyl amdanoch chi! Mae’r cyffro a’r cyfle i serennu yn codi hwyl ymhlith criw Dyffryn Aeron. Maen nhw’n rhan o ffilm arbennig i gofio Joseph Parry, y cyfansoddwr enwog o Ferthyr. Ond cyn hir, maen nhw’n cael eu tynnu i ganol helynt y Gweithwyr a’r Meistri Haearn yn Merthyr, ac efallai hyd yn oed ymhellach. O leiaf, maen nhw wedi dianc rhag drygioni criw Mr Ŵr – Ben Ake a Gwenwyn Ŵr. Neu a ydyn nhw wir?

Dewch i fwynhau hwyl pantomeim unigryw Cwmni Actorion Felinfach a berfformir ac sydd wedi ei greu a’i ysgrifennu gan aelodau’r gymuned a thîm Theatr Felinfach. Bydd cymorth ar gael i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg newydd.  Perfformiadau prynhawn ar 13 Rhagfyr. Cysylltwch â’r Theatr am delerau grwpiau o 10 a mwy.

I ddathlu’r ‘dolig,  bydd cyfle i ddawnsio a joio ymysg ffrinidau a theulu gyda 50 Shêds o Santa Clôs ar 19 Rhagfyr 2025. Noson gabaret cymdeithasol a fydd yn siŵr o ddod â swyn Nadoligaidd i chi, gyda thiwns gan Rhys Taylor a’r band. Yn canu ar y noson bydd Sara Davies, enillydd Cân i Gymru 2024 a’r actor/canwr adnabyddus Gwydion Rhys.

Mae’r noson yn addas ar gyfer y teulu oll ac yn ddelfrydol ar gyfer parti gwaith neu dewch â’ch teulu a ffrindiau. Mae dau ddewis tocyn:  VIP Sedd Cabaret (sy’n cynnwys diod croeso am ddim a gwasanaeth diodydd i’r bwrdd) neu Tocyn  Awditoriwm (gyda chroeso i’r llwyfan i ddawnsio).

Meddai Carys Hâf, Cydlynydd Blaen Tŷ a Rhaglennu Theatr Felinfach: “Mae Nadolig yn Theatr Felinfach yn gyfnod sbesial a braf yw cael ddathlu gyda’n cynulleidfa. Rhwng bwrlwm a sbri'r Pantomeim Nadolig blynyddol a mash-ups gwych noson 50 Shêds o Santa Clôs mae’n gyfle i eistedd nôl a ymlacio, chwerthin a chreu atgofion”.

Am docynnau a gwybodaeth bellach ewch ar wefan Theatr Felinfach neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau: 01570 470697 / theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk

Dilynwch Theatr Felinfach ar Facebook, Instagram, a YouTube.

02/12/2025